Gweithgareddau Antur yn Eryri

go-below-250Os ydych chi’n chwilio am antur, bydd digonedd o ddewis ar eich cyfer yn Eryri – mae dwsinau o ddarparwyr gweithgareddau antur ar gael. Mae arfordira, padlfyrddio ar-eich-sefyll, gwifrau gwib, archwilio hen weithfeydd tanddaearol – a llawer mwy o weithgareddau ar gael i’r dewrion yn eich plith!


Yn aml cyfeirir at Eryri fel ‘prif ganolfan weithgareddau’r DU’, ac mae rheswm da dros hynny – mae’r tirlun amrywiol o goedwigoedd, mynyddoedd, cefn gwlad agored, afonydd, llynnoedd ac arfordir yn cynnig digon o gyfleoedd i fwynhau gweithgareddau anturus yn yr awyr agored.

Ceir dwsinau o ddarparwyr gweithgareddau antur yn yr ardal, ond mae’r rhai canlynol i gyd yn rhannu un nodwedd bwysig: mae’n bosibl archebu eu gweithgareddau drwy Ganolfannau Croeso Eryri lle defnyddir cyfleuster archebu arbennig.

Surf-Lines

Mae Surf-Lines yn cynnig nifer o weithgareddau ac anturiaethau cyffrous, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â dŵr. Caiacio a chanwio, padlfyrddio ar-eich-sefyll (SUP), arfordira (cyfuniad o sgramblo, dringo, neidio clogwyni a nofio), dringo creigiau, nofio mewn llynnoedd, caiacio ‘eistedd-ar-y-top’ – mae’r rhain i gyd ar gael drwy Surf-Lines, ac mae rhai gweithgareddau yn addas i blant a dysgwyr cwbl amhrofiadol.

Darganfod mwy:

Ewch i www.surf-lines.co.uk neu ffoniwch 01286 879001.

Pro-Active Adventure

Addas ar gyfer plant 7 oed a hŷn, mae’r Blue Lake Buzz Day a drefnir gan Pro-Active Adventures yn cyfuno abseilio 100 troedfedd, gwifren wib 80 troedfedd at y Llyn Glas, archwilio hen weithfeydd tanddaearol, Tyrolean Traverse (sef sgramblo wysg eich ochr yn sownd wrth raff) a dringo creigiau. Mae hyn i gyd i’w gael yn y Llyn Glas, Y Friog, ac mae’r holl offer arbenigol yn cael ei ddarparu (ond peidiwch ag anghofio gwisgo dillad nad ydych ofn eu baeddu).

Darganfod mwy:

Ewch i www.proactive-adventure.com neu ffoniwch 01588 630123.

Seren Ventures

Gyda Seren Ventures, Betws-y-Coed, gallwch roi cynnig ar weithgareddau ‘canyoning’ neu grwydro ceunentydd – dau faes gweithgaredd sy’n gymysgedd o nofio, sgramblo, llithro ac abseilio a fydd yn sicr o bwmpio’r adrenalin – ac yn achos y ‘canyoning’, plymio’n braf i’r dŵr ar y diwedd. Bydd arweinydd profiadol gyda chi drwy’r adeg, a darperir yr holl offer diogelwch technegol.

Darganfod mwy:

Ewch i www.serenventures.com neu ffoniwch 01690 710754.

Up 4 Adventure

Gydag Up 4 Adventure cewch roi cynnig ar ddringo creigiau yn ardal y Bermo, a bydd golygfeydd trawiadol yn eich disgwyl ar ôl ichi ddringo i uchderau o hyd at 25 metr. Mae dringo creigiau yn llawn sialens ond hefyd yn rhoi boddhad mawr; pan fyddwch yn cyrraedd y copa, byddwch yn teimlo eich bod wedi cyflawni camp arbennig iawn! Yn ogystal â’r dringo ei hun, byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol fel technegau belai a gwneud clymau.

Darganfod mwy:

Ewch i www.up4adventures.com neu ffoniwch Raechelle Williams ar 07793027130.

Plas Menai – Canolfan Chwaraeon Dŵr Cenedlaethol

Yn ôl y disgwyl mewn Canolfan Chwaraeon Dŵr Cenedlaethol mae digon o chwaraeon dŵr i’w mwynhau ym Mhlas Menai. Yn ogystal â chwaraeon mwy diweddar fel arfordia a SUP, gallwch roi cynnig hefyd ar weithgareddau mwy traddodiadol, megis caiacio, hwylfyrddio, hwylio a llawer mwy. Ceir cyrsiau ar gyfer plant dan 18 oed hefyd, felly mae digon o hwyl i’w gael i aelodau ieuengaf y teulu.

Darganfod mwy:

Ewch i www.plasmenai.co.uk neu ffoniwch 01248 670 964.

Snowdonia Adventure Hub/Tree Top Adventure

Mae digon o hwyl i’w gael gyda theithiau crwydro ceunentydd Snowdonia Adventure Hub. Mae crwydro ceunentydd yn mynd â chi ar daith i fyny afon (tua chwarter awr mewn car o Lanrwst), lle byddwch yn dod ar draws digon o sialensiau naturiol, yn cynnwys pyllau plymio, mannau cyfyng, dringo a mwy. Bydd tywysydd cwbl brofiadol gyda chi drwy gydol yr antur, a darperir yr holl offer diogelwch angenrheidiol.

Yn Tree Top Adventure byddwch chi a’r teulu yn gallu mwynhau cwrs rhaffau uchel ffantastig, i fyny fry yn y coed, lle byddwch yn gorfod wynebu mwy na 30 o rwystrau, yn cynnwys trawstiau cadw balans, gwifrau gwib, pontydd rhaff ac efelychydd parasiwt. Mae’r antur hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n weddol ffit ac sy’n dalach na 1.3m (4 troedfedd a 3 modfedd).

Darganfod mwy:

Ewch i www.ttadventure.co.uk neu ffoniwch 01690 710 914

Zip World Snowdonia

Mae Zip World Snowdonia yn un o’r darparwyr gweithgareddau antur diweddaraf yn yr ardal. Y wifren wib dros Chwarel y Penrhyn ym Methesda yw’r wifren wib hwyaf yn hemisffer y gogledd, ac yn ystod y daith byddwch yn teithio am filltir ar gyflymder o hyd at 100mya – wow! Dechreuwch gyda’r ‘Little Zipper’ sy’n cyrraedd cyflymder o 40mya, cyn mynd ymlaen ar y Big Zip. Rhwng diwedd y Short Zipper a dechrau’r Long Zipper byddwch yn cael eich cludo mewn cerbyd-tir-garw pwrpasol, ac ar y ffordd byddwch yn cael clywed hanes y chwarel.

Darganfod mwy:

Ewch i www.zipworld.co.uk neu ffoniwch 01248 601 444.

Go Below

Ewch am antur tanddaearol gyda thaith archwilio Go Below, lle byddwch yn cael archwilio rhai o hen weithfeydd Eryri. Gan ddefnyddio gwifrau gwib a thrawsdeithiau byddwch yn teithio drwy fynydd, yn dringo creigiau a rhaeadrau, croesi’r dŵr mewn cwch ac abseilio oddi ar ysgafellau. Byddwch yn gweld llynnoedd gleision dyfnion, ogofâu uchel a hen beiriannau’r chwarelwyr gynt – ac yn dysgu hanes y diwydiant mwyngloddio ar yr un pryd.

Darganfod mwy:

Ewch i www.go-below.co.uk neu ffoniwch 01690 710108

Llŷn Adventure

Mae taith dair awr Llŷn Adventure ar-ben-caiac yn hwyl anhygoel, a fyddwch chi fawr o dro yn dysgu’r sgiliau sylfaenol (mae caiacs ‘eistedd-ar-y-top’ wedi eu cynllunio i fod yn hollol sefydlog ac yn hawdd i’w meistroli). Byddwch yn mwynhau taith hamddenol lle gallwch fwynhau Pen Llŷn, ei golygfeydd, a gweld a gwrando ar ei bywyd gwyllt, neu – os bydd y tywydd yn caniatáu – byddwch yn eich cael eich hun yn marchogaeth y tonnau mewn sesiwn syrffio egnïol. Bydd y daith yn mynd â chi o amgylch Nefyn a Phorthdinllaen a bydd arweinydd yn gofalu amdanoch drwy’r adeg.

Darganfod mwy:

Ewch i www.llynadventures.com neu ffoniwch Chris Thorne ar 077518267143.

1 thoughts on “Gweithgareddau Antur yn Eryri

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Sul y Tadau yn Eryri: syniadau gwych ar gyfer pob math o dad! | Ymweld ag Eryri

Gadael sylw