Pump o lynnoedd cudd Eryri

Mae nifer o lynnoedd cuddiedig yn cuddio mewn gwahanol rannau o Eryri. Faint o’r rhain allwch chi eu darganfod?

Mae’r agosrwydd at ddŵr yn dod ac ymdeimlad o lonyddwch a serenedd, beth bynnag yw’r tywydd. Mae 2018 yn #BlwyddynYMôr yng Nghymru, ac mae’n ddathliad o’n hafonydd, ein rhaeadrau a’n llynnoedd yn ogystal â’r arfordir ei hun.

Nid yw llynnoedd cudd Eryri mor guddiedig na allwch ddod o hyd iddynt unwaith byddwch yn gwybod ble i edrych…..ond nid ydynt o angenrheidrwydd yn hawdd iawn i’w darganfod, ac yn wahanol i lynnoedd mwy gweladwy megis Llyn Padarn a Llyn Tegid nid ydynt yn hawdd i’w gweld wrth i chi yrru heibio ar ddiwrnod allan.

Dyma bump o lynnoedd cudd Eryri sydd wir werth yr ymdrech i fynd i chwilio amdanynt.

Llyn Elsi - geograph.org.uk - 75874Llyn Elsi

Dewch o hyd i Lyn Elsi yn cuddio uwchben Betws-y-Coed you’ll find Llyn Elsi, llyn sydd mewn gwirionedd yn gronfa ddŵr sy’n darparu dŵr ar gyfer y pentref. Arferai’r llyn hwn fod yn ddau o lynnoedd llai hyd adeiladu’r argae 20 troedfedd ym 1914.

Mae’r llyn hwn ar uchder o 700 troedfedd, felly cewch olygfeydd godidog tuag at fynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau. Gallwch ddefnyddio un o nifer o lwybrau er mwyn cael yno – mae’r mwyaf uniongyrchol yn cychwyn y tu ôl i Eglwys y Santes Fair ym Metws-y-Coed.

Llyn Mair. - geograph.org.uk - 235172Llyn Mair

Llyn artiffisial uwchben Plas Tan-y-Bwlch, ger Maentwrog, yw Llyn Mair. Crëwyd y llyn yma gan William Edward Oakeley ym 1889, yn anrheg penblwydd 21ain i’w ferch, Mair (ac felly yr enw!).

Wedi ei amgylchynu gan goetir derw hynafol, mae hwn yn lyn tangnefeddus ac yn fan poblogaidd ar gyfer picnic. Mae Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg drwy’r coed uwchlaw’r llyn ac mae hyd yn oed gorsaf drenau (Tan-y-Bwlch) o fewn cerdded i’r llyn.

Mae ffurf y bryniau o amgylch y llyn yn creu atsain diddorol ger y llyn – rhywbeth mae ymwelwyr ifanc yn mwynhau ei brofi.

Llyn Cwm BychanLlyn Cwm Bychan

Dewch o hyd i Lyn Cwm Bychan ym mynyddoedd y Rhiniogydd, ardal sydd wedi ei disgrifio fel “gwir anialdir olaf Cymru”.

Mae’r afon yn darddiad i’r Afon Artro sydd yn llifo drwy bentref Llanbedr a thua’r môr.

Mae hwn yn lyn prydferth ble gallwch fwynhau taith gerdded fer (neu ewch a’ch beic os ydych am ychydig o feicio). Gellir ymuno â’r llwybr o amgylch y llyn yn y maes parcio, ym mhen dwyreiniol y llyn.

Llyn Llywelyn - geograph.org.uk - 648305Llyn Llywelyn

Os ydych yn chwilio am ychydig heddwch tangnefeddus, yna mae Llyn Llywelyn yn le arbennig i’w ddarganfod. Mae’r llyn bychan hwn yng nghanol Coedwig Beddgelert, ger gorsaf drenau Rhyd Ddu, ar Rheilffordd Ucheldir Cymru.

Mae hwn yn fan ardderchog am ychydig o heddwch a thangnefedd, wedi ei amgylchynu gan natur ar ei orau. Mae taith gerdded gylchol o tua 4km, sydd yn cychwyn o’r maes parcio gan fynd â chi i fyny at y llyn ac yn ôl i lawr.

Llyn Geirionydd - geograph.org.uk - 181436Llyn Geirionydd

Rydym wedi twyllo ychydig gyda’r llyn olaf – Llyn Geirionydd – gan nad yw yn gudd mewn gwirionedd…..ond mae ychydig allan o’r ffordd felly rydym am ei gynnwys beth bynnag.

Gallwch ddod at y llyn gyda char naill ai o Drefriw neu o Lanrwst, yn Nyffryn Conwy. Neu, os ydych yn teimlo’n egnïol ac am gerdded yno, mae hefyd ar y Trywydd Trefriw.

Ffaith ddiddorol am Lyn Geirionydd yw mai hwn yw’r unig lyn yn Eryri ble caniateir cychod pŵer a sgïo dŵr.

Gadael sylw