Atyniadau Eryri: Hwyl i’r Teulu yng Ngogledd Cymru

Labyrinth y Brenin Arthur

Labyrinth y Brenin Arthur

Gyda’i dirlun dramatig yn gefnlen i filltiroedd o gefn gwlad i’w dramwyo, fe allai rhywun feddwl y byddai gwyliau yn Eryri yn fwy addas ar gyfer y rhai hynny sy’n mwynhau gwyliau bywiog yn yr awyr agored yn hytrach nag ar gyfer teuluoedd. Ond mae gan Eryri atyniadau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan, pob  grŵp oed a  phob diddordeb unigol. Yma, ymchwiliwn i rai o atyniadau a gweithgareddau teulu-ganolog mwyaf poblogaidd Eryri.

Beicio yn Eryri

Beicio yn Eryri

Mae ardal fynyddig a garw Eryri yng Ngogledd Cymru wedi’i disgrifio fel “canolfan weithgaredd amlycaf” y DU: disgrifiad sy’n cyfeirio at yr ystod eang o weithgareddau awyr agored sy’n gwneud y rhanbarth mor boblogaidd gydag ymwelwyr anturus sy’n mwynhau ymaflyd â’r elfennau ar eu gwyliau. Ac mae hynny’n ddigon teg; yn Eryri, os mai dyna sy’n mynd â’ch bryd chi,  gallwch chi ddewis ymhlith gweithgareddau llawn adrenalin megis mynydda, canŵio, rafftio dŵr gwllt, syrffio, beicio mynydd, marchogaeth, abseilio, beicio-cwad, pledu paent a cherdded.

Ond os ydach chi’n ymweld ag Eryri gyda phlant bach, neu gydag aelodau o’r teulu sydd ddim am or-wneud pethau ar eu gwyliau, efallai y byddech chi’n tybio bod Eryri ychydig yn rhy brysur ac na fyddai’n addas iawn ar gyfer y teulu. Ond peidiwch â chael eich twyllo!

Ar hyd a lled rhanbarth Eryri, fe gewch chi hyd i lawer o atyniadau sy’n addas ar gyfer pob aelod o’r teulu,o’r ieuengaf hyd at yr hynaf. O gestyll a gerddi i  gertio a pharciau thema, mae Eryri yn llawn  gweithgareddau ac atyniadau ar gyfer pawb a phopeth.

Ym mharc Glasfryn, ger Pwllheli mae’r mynediad a’r parcio am ddim. Yn y ganolfan ei hun, gallwch fwynhau bowlio deg, saethyddiaeth, beicio-cwad, pysgota a chertio, ac ar ben hynny mae yna le chwarae ysgafn a phwll peli ar gyfer plant mân a phlant hŷn. Mae gan Glasfryn  hefyd siop fferm wych ble gallwch chi brynu cynnyrch lleol o ansawdd, ac ar ben hynny, cynhelir marchnadoedd fferm a marchnadoedd Ffrengig  ar y safle yn gwerthu bwyd, diodydd a chynnyrch gwahanol.

Parc Glynllifon

Parc Glynllifon

Yn ogystal, cynhelir ffeiriau crefft a bwyd rheolaidd ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon. Mae adeiladau Glynllifon wedi’u gosod  ar dir hynod drawiadol, ble gallwch chi fynd am dro, dilyn trywydd yr ystlum a chrwydro ar hyd coedlannau prydferth gan orffen eich ymweliad gyda thȇ hufennog blasus.

Yn Llanberis, mae’n anodd rhoi rhestr gyflawn o atyniadau gan fod cymaint ohonyn nhw yma! Y prif atyniad yn Llanberis wrth gwrs yw Yr Wyddfa– sef y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’r llwybr hiraf-ond hawsaf- at y copa yn cychwyn yn Llanberis, ond os nad ydi cerdded i’r copa yn apelio, mae yna deithiau trȇn rheolaidd i’r copa a‘i ganolfan ymwelwyr newydd sbon. Os ydach chi’n mwynhau teithiau trȇn golygfaol. mi fyddwch chi wrth eich bodd hefo’r trȇn stȇm lein bach ar Reilffordd Llyn Llanberis. Yn Llanberis hefyd, gallwch ymweld â’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol a’r Ganolfan Gwefru, ble mae modd teithio i grombil y mynydd a gweld un o gampweithiau peirianyddol mwyaf dyn.

Yn y Gelli Gyffwrdd yn Y Felinheli, cewch hyd i Barc Thema pur wahanol…  gan mai chi eich hun fydd yn pweru’r holl reidiau!, Mae’r Parc Thema eco-gyfeillgar arloesol hwn yn le i dreulio oriau ynddo ac mae’r tâl mynediad yn cynnwys y defnydd o’r prif reidiau a gweithgareddau. Mae mwy o hwyl eco-gyfeillgar i’w gael yn y Ganolfan ar gyfer Technoleg Amgen ym Machynlleth, ble gallwch fynd ar daith ar hyd ar rheilffordd clogwyn sydd wedi’i bweru gan ddŵr, a dysgu am fyw’n gynaladwy a chynhyrchu egni adnewyddol.

Yn y Ganolfan Grefftau yn Corris ger Machynlleth, gallwch wylio crefftwyr wrth eu gwaith, yn creu anrhegion llaw ar gyfer eich cartref, gardd neu ffrindiau. Mae deg o weithdai yn y Ganolfan Grefftau a lle chwarae i blant i gadw’r rhai bach yn ddiddig hefyd. Yn y Ganolfan hon, mae Labyrinth Y Brenin Arthur, ble y gallwch hwylio trwy raedr mawr ac ymgymryd â thaith danddaearol dramatig. Yma hefyd gallwch glywed hanesion am y brenin Arthur ynghyd â chwedlau traddodiadol eraill o Gymru, a rheini’n cael eu hadrodd mewn ogofau mawr ac hynafol.

Castell Conwy

Castell Conwy

Mae Cestyll Eryri yr un mor enwog â’i fynyddoedd. Ewch ar daith  hanesyddol trwy grwydro o gwmpas Caernarfon a Chonwy gyda’u cestyll a’u waliau trefol canoloesol sydd wedi’u cadw mor dda. Mae cestyll Harlech a Chricieth wedyn wedi’u gosod yn uchel uwchben y môr er mwyn rhwystro gelynion a Chastell Dolbadarn yntau wedi’i osod yng nghesail y mynyddoedd mawrion yn Llanberis. Hefyd, gallwch fynd i weld plasty castellog dull Normanaidd o’r 19 Ganrif, sef Castell Penrhyn ym Mangor, sydd hefyd yn gartref i amgueddfa reilffyrdd diddorol iawn.

Ac os ydi eich syniad chi o wyliau teuluol perffaith yn cynnwys bwcedi, rhawiau a llond gwlad o hufen iâ, mi fyddwch chi’n falch iawn o wybod bod gan Eryri filltiroedd lawer o arfordir i’w mwynhau. Mae gan Eryri sawl cyrchfan glan môr traddodiadol, megis Pwllheli gyda’i farina a’i ffair fechan; Bermo gyda’i ffair bleser, promenâd a’i amgueddfa long-ddrylliad; a Dinas Dinlle sydd â milltiroedd o draeth tywodlyd ac amgueddfa awyr sy’n cynnig teithiau awyr a chyfle i weld y wlad o’r awyr. Ond ar ben hynny, mae llawer iawn o lecynnau hardd heddychlon a diarffordd ar hyd arfordir Eryri, megis Porth Oer, Porthdinllaen a Trefor.

Traethau, cestyll, ffeiriau pleser, a milltiroedd lawer o gefn gwlad deniadol… wrth ymweld ag Eryri, be wnewch chi nesaf?

Gadael sylw