Ein Treftadaeth – Atyniadau Treftadaeth Eryri

Castell Cricieth

Castell Cricieth

Mae prosiect ‘Ein Treftadaeth’ yn dod ag atyniadau treftadaeth Gogledd Cymru ynghyd mewn porthol llawn gwybodaeth sy’n helpu ymwelwyr i ddarganfod hanes cyfoethog yr ardal. Dyma ein canllaw i rai o safleoedd treftadaeth Eryri sydd wedi eu cynnwys yn y porthol.

Ymhell cyn dyddiau’r gwifrau gwib, y reid ffigar-êt wedi ei gyrru gan bobl a’r canolfannau hamdden yn Eryri, roedd pobl yr ardal wedi bod yn brysur yn adeiladu’r caerau, y cestyll a’r rheilffyrdd stêm a fyddai, yn yr oes fodern, yn dod yn atyniadau treftadaeth Eryri.

Mae’r prosiect ‘Ein Treftadaeth’ yn dod ag atyniadau treftadaeth Eryri at ei gilydd dan yr un to, ac yn cynnig cipolwg ar fywyd yn Eryri yn ystod y milenia diwethaf. Diolch i brosiect Ein Treftadaeth, gall ymwelwyr ddysgu mwy am dreftadaeth Eryri, o gynhanes hyd at hanes diwydiannol, gan gynnwys hanes y Rhufeiniaid, Tywysogion Gwynedd, cestyll Edward I a mannau cysegredig yr ardal.

Bryn Cader Faner

Bryn Cader Faner

Cyn-hanes

Mae cyfoeth o safleoedd cynhanes yn Eryri, ac maent yn amrywio o siambrau claddu porth megis Dolmen Bach Wen yng Nghlynnog Fawr i fryngaerau cyfan fel Tre’r Ceiri ar lethrau’r Eifl.

Efallai nad yw rhai safleoedd yn ymddangos yn bwysig iawn i rai nad ydynt yn arbenigwyr; ond mae eraill, fel Bryn Cader Faner ger Harlech, yn anhygoel o hardd (cafodd Bryn Cader Faner ei ddisgrifio hyd yn oed fel “yr heneb harddaf o’r Oes Efydd ym Mhrydain” – ac mae’n hawdd deall pam).

Mae rhai o’r safleoedd hyn yn hynafol tu hwnt, ac wedi bod yma am dros 5,000 o flynyddoedd; mae rhai canfyddiadau archeolegol o Ogledd Cymru yn dyddio yn ôl ymhellach fyth i 11,000 CC. Mae’r syniad fod safleoedd a henebion o’r fath yn parhau i fodoli heddiw yn y Gymru fodern yn eithaf syfrdanol!

Segontium

Segontium

Y Rhufeiniaid

Digwyddodd hyn nifer o ddegawdau ar ôl i’r Rhufeiniaid ymosod ar dde Prydain cyn i’r goresgynwyr hyn wneud eu ffordd i Ogledd Cymru. Erbyn 77OC roedd Agricola wedi meddiannu’r ardal ac wedi sefydlu caerau mewn mannau strategol bwysig, a bwriad y rhain oedd cynorthwyo system filitaraidd Rhufain i weithredu’n esmwyth.

Os anghofiwn am jôcs Monty Python, beth fu’r Rhufeiniaid yn ei wneud yng Ngogledd Cymru? Buont yn adeiladu ffyrdd, cloddio am gopr, aur a llechi, adeiladau odynau teils ac roeddynt yn ddigon craff i roi rhywfaint o bŵer i lwythau lleol, oedd yn cael rheoli  ‘teyrnasoedd dibynnol’.

Daeth rheolaeth Rufeinig i ben ym Mhrydain ym 410 OC, ond yma yn Eryri mae’n dal yn bosibl synhwyro presenoldeb y Rhufeiniaid yng ngweddillion y caerau a adeiladwyd ganddynt yn Segontium ger Caernarfon a Thomen y Mur ger Trawsfynydd.

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Cestyll Edward 1af

Roedd Edward I yn perthyn i linach frenhinol Plantagenet, oedd â’i gwreiddiau yn Ffrainc, ond a ddaeth i reoli Lloegr yn gyntaf, ac yna gweddill Prydain am genedlaethau. Roedd cynllun Edward yn un beiddgar: nid oedd yn fodlon bod yn frenin ar Loegr yn unig, mynnai gael Cymru a’r Alban hefyd, ac felly aeth ati i ddechrau concro’r cenhedloedd hyn (os ydych wedi gweld y ffilm Braveheart, mae’n debyg y byddwch eisoes yn gyfarwydd â gwaith Edward).

Ddiwedd y 13eg ganrif adeiladodd Edward ‘gylch haearn’ o gestyll a threfi caerog o amgylch Gogledd Cymru, ac mae llawer o’r rhain erbyn hyn wedi cael statws Treftadaeth y Byd UNESCO.

Ymhlith cadarnleoedd Edward ym mynyddoedd Eryri ac ardal yr Arfordir, ceir Castell Caernarfon, a godwyd i’r brenin gan Master James of St George. Dywedir bod muriau ‘streipïog’ allanol y castell yn dangos dylanwad Caergystennin. Yn ôl y chwedl, dywedir mai dim ond Tywysog Cymru a fyddai wedi cael ei eni yng Nghymru a fyddai’r Cymry yn ei dderbyn, ac un na fyddai’n gallu siarad gair o Saesneg; felly gofalodd Edward fod ei fab yn cael ei eni yng Nghastell Caernarfon, ac wrth gwrs, pan oedd yn fabi ni allai’r tywysog, fel unrhyw newydd-anedig arall, siarad gair o unrhyw iaith – Saesneg neu arall!

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Tywysogion Gwynedd

Daeth llywodraeth Tywysogion Gwynedd i ben yn ddisymwth diolch i Edward, ond mae llawer o safleoedd yn parhau yn Eryri heddiw sydd â chysylltiadau â’u teyrnlin, y gellir ei olrhain yn ôl i amseroedd hynafol, ac a oedd, ar un adeg, yn rheoli rhan helaeth o Gymru.

Er bod yr 800 mlynedd pan fu Tywysogion Gwynedd yn rheoli’r tir yn aml yn rhai gwaedlyd, ac er bod rhyfela’n digwydd, nid yn unig yn erbyn y Saeson, ond ymysg y Cymry eu hunain, roedd y tywysogion yn dal i ganfod amser i lunio cysylltiadau diwylliannol a chrefyddol cadarn â rhannau eraill o dir mawr Ewrop, ac roeddynt hyd yn oed yn noddi cerddoriaeth, barddoniaeth a phensaernïaeth.

Heddiw gellir dychmygu sut fywydau oedd gan Dywysogion Gwynedd drwy ymweld â’r hyn sy’n weddill o’u cestyll – er enghraifft Castell Cricieth, Castell Dolbadarn a Chastell y Bere – a hyd yn oed Eglwys Gadeiriol Bangor, lle cafodd y gwaith adeiladu yn y 12fed ganrif ei ariannu gan Gruffudd ap Cynan, un o dywysogion Gwynedd. Yn wir, cafodd Gruffudd ei gladdu yno ger y brif allor gyda’i feibion Cadwaladr ac Owain Gwynedd.

Ffynnon Beuno

Ffynnon Beuno

Mannau cysegredig

Sylfeini Eglwys Gadeiriol Bangor y cyfeiriwyd ati uchod yw’r sylfeini eglwys hynaf ym Mhrydain gyfan. Mae’n dyddio’n ôl yn sicr i  ‘Oes y Saint’; cafodd ei sefydlu ym 525 gan Ddeiniol, uchelwr oedd wedi cael y tir gan Maelgwn Hir, brenin Gwynedd ar y pryd, i sefydlu mynachlog.

Ceir nifer o safleoedd yn Eryri sy’n deillio’n ôl i’r cyfnod hwn o hanes; ac un ohonynt yw eglwys Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr – man aros pwysig ar Lwybr y Pererinion. Mae Beuno yn cael clod am gyflawni nifer o wyrthiau a dywedir fod Ffynnon Beuno gerllaw, wedi ymddangos ar ôl iddo gyflawni un o’r gwyrthiau hyn.

Ac wrth inni grybwyll Llwybr y Pererinion, efallai mai’r fangre gysegredig bwysicaf yn Eryri yw ynys fechan Enlli, oddi ar flaen Penrhyn Llŷn. Dywedir bod 20,000 o saint wedi eu claddu yno, a bod tair pererindod i’r ynys yn cyfateb i un bererindod i Rufain.

Llechwedd

Llechwedd

Gwlad ddiwydiannol

Thema olaf ein prosiect Ein Treftadaeth yw hanes diwydiannol Eryri.

O’r diwydiannau hynafol fel mwyngloddio copr yng Ngwaith Copr Sygun i’r orsaf bŵer drydan-dŵr hynod fodern y Mynydd Gwefru, mae Eryri yn frith o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol hynod ddiddorol.

Fel y byddech yn disgwyl, o ystyried tirwedd hynafol Eryri, mae cloddio am lechi yn chwarae rhan hollbwysig yn hanes diwydiannol yr ardal – ac mae llawer o atyniadau treftadaeth ddiwydiannol yr ardal yn dyst i hyn. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis yn fan cychwyn delfrydol, oherwydd yma byddwch yn canfod yn union sut fywyd oedd gan chwarelwr. Yn yr un modd, mae Ceudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog yn cynnig cipolwg rhyfeddol, er mai eich arweinydd ar ran o’r daith hon fydd ‘ysbryd’ bachgen o chwarelwr deuddeg oed, oedd yn gweithio yn y chwarel yn oes Fictoria.

Ni ddylem anghofio ychwaith sut y cludwyd y llechi o’r chwareli… rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd treftadaeth Eryri yw’r rheilffyrdd stêm, a oedd, ar un adeg yn cludo llechi ledled yr ardal, ac ymhellach, i weddill y byd. Heddiw, mae’r trenau yn cario pobl yn lle llechi, ac mae pawb sy’n teithio ynddynt yn cael profiad bythgofiadwy.

Os oes gennych unrhyw ddiddordeb mewn hanes, plymiwch i’r gorffennol y tro nesaf y byddwch yn ymweld ag Eryri, drwy archwilio rhai o’i hatyniadau treftadaeth diddorol; mae’n ffordd ardderchog o gael hwyl a dysgu rhywbeth newydd ar yr un pryd!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s