#PackedForSnowdonia – Codi eich Pac i fynd i Eryri: Un Gyrchfan, Tri Gwyliau

Mochras

Mochras

Beth bynnag fo’ch oedran, eich lefel ffitrwydd neu beth bynnag fo’ch diddordebau, mae rhywbeth at ddant bawb yn Eryri. Pa fath o wyliau fyddwch chi’n ei ddewis?


Mae Eryri yn un o’r cyrchfannau prin hynny sy’n berffaith o safbwynt unrhyw fath o wyliau bron. Pa un ai ydych yn fentrus ac yn chwilio am wyliau egnïol, yn deulu sydd eisiau gwyliau llawn o weithgareddau ac atyniadau addas i blant, neu os ydych yn bwriadu cysylltu â’r gorffennol drwy fynd i safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, Eryri yw’r gyrchfan i chi!

Dyma dri math gwahanol iawn o wyliau y gallwch eu mwynhau yn Eryri. Fyddwch chi’n dewis un, neu’n rhoi cynnig ar bob un?

Gwyliau egnïol

Beth yw ystyr ‘egnïol’? Yn Eryri, gall gweithgareddau fod mor hamddenol neu mor anturus ag y dymunwch – felly beth bynnag fo’ch lefelau ffitrwydd neu eich gallu, bydd gweithgaredd sy’n addas i chi; nid ar chwarae bach mae’r ardal yn cael ei galw yn “brif ganolfan weithgareddau’r DU”!

Mae cerdded yn un o hoff weithgareddau sawl anturiaethwr yn Eryri, o blant bach mewn cadeiriau gwthio i bobl yn eu pedwar ugain mewn cadeiriau olwyn a phob un oedran arall. O deithiau hamddenol i ddringo mynyddoedd, mae taith gerdded addas i bawb yn Eryri. Ceir nifer o lwybrau cerdded swyddogol fel Llwybr Arfordir Llŷn, Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr Mari Jones, Llwybrau’r Dyffrynnoedd Llechi a chwe llwybr cerdded arall i gopa’r Wyddfa. Cerddwch ar eich pen eich hun, neu mewn grŵp, neu beth am logi tywysydd profiadol i ddangos y pethau sy’n werth eu gweld yn yr ardal.

Mae golff yn boblogaidd yn Eryri; ceir nifer o gyrsiau golff rhagorol yn yr ardal, mae llawer ohonynt wedi eu cynnwys yn Nhrywydd Golff James Braid Gogledd Cymru (chwaraewch yr holl gyrsiau ar y trywydd a derbyn tystysgrif ar y diwedd). Gan fod cymaint o gyrsiau yn cynnig llety a chynigion o brydau, mae’n hawdd deall pam y mae gwyliau golffio yn Eryri yn ffordd boblogaidd o dreulio gwyliau penwythnos.

Ceir digon o opsiynau beicio yn Eryri i’r rhai sydd well ganddynt grwydro ar ddwy olwyn. Mae beicio mynydd yn dra phoblogaidd – mae Parc Coedwig Coed y Brenin a chanolfan feicio Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog yn ddau brif atyniad beicio mynydd yn yr ardal. Mae llwybrau hamdden yn frith yn yr ardal, ac yn galluogi beicwyr o bob oedran a gallu i feicio ymhell o gyrraedd ceir neu mewn ardaloedd lle ceir traffig ysgafn, a chael mwynhad gwirioneddol o’r golygfeydd ysblennydd.

Os ydych yn cynllunio gwyliau egnïol yn Eryri, gallai eich taith gynnwys unrhyw un o’r uchod yn ogystal â rhuthro ar wifren wib, archwilio tanddaearol, anturiaethau ym mrigau’r coed, dringo (mynyddoedd, clogfeini, waliau dringo), marchogaeth, gocartio a saethyddiaeth, pysgota, ac amrywiaeth o chwaraeon dŵr, gan gynnwys rafftio dŵr gwyn, arfordira, syrffio, tonfyrddio, hwylio a llawer mwy. Efallai bod y rhestr hon o weithgareddau yn swnio’n flinedig ond nid oes terfyn ar yr atyniadau!

Gwyliau i Deuluoedd

O ddyddiau ar lan y môr i reid ffigar êt sy’n cael ei gyrru gan bobl, mae Eryri yn ddelfrydol fel cyrchfan wyliau i deuluoedd, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Gadewch inni sôn yn gyntaf am y dyddiau hynny ar lan y môr. Yn aml, mae pobl sy’n ymweld ag Eryri yn synnu o glywed fod yma 200 milltir o arfordir yn ogystal â chadwyni di-ben-draw o fynyddoedd. Ac mae hynny’n golygu traethau tywod, traethau caregog, traethau eang, traethau hir… mae’n golygu twyni tywod a chestyll tywod, pyllau glan môr a throchi traed, gemau ar y traeth ac ymlacio yn yr haul.

Gadewch inni edrych yn fwy manwl ar rai o’r traethau hynny.

Abersoch

Abersoch

Mae Abersoch yn boblogaidd oherwydd ei draethau tywod hardd, ei chwaraeon dŵr a’i siopau ‘trendi’ (mae diwylliant syrffio yn dra amlwg yma – yn wir, bob blwyddyn mae Abersoch yn croesawu gŵyl Wakestock, un o wyliau cerddoriaeth tonfyrddio fwyaf Ewrop).

Mae gan Bermo draeth tywod anferth, a digon o elfennau glan môr traddodiadol Brydeinig yr ydym ni’n eu caru gymaint (promenâd, hufen iâ, ffair fechan, siopau anrhegion ac yn y blaen). Mae yno hefyd atyniadau dan do rhagorol ar gyfer dyddiau pan na fydd y tywydd yn caniatáu ichi fod ar y traeth, ar ffurf atyniadau On The Quay at Barmouth.

Mae gan Ddinas Dinlle bromenâd hir a thraeth anferth o dywod a cherrig mân sy’n ardderchog ar gyfer nofio, archwilio pyllau yn y creigiau a gêmau ar y traeth. Ceir siop hufen iâ ragorol a siop sglodion, siopau anrhegion a maes chwarae i blant. Ar un pen i’r traeth ceir bryngaer o Oes yr Haearn; ar y pen arall, amgueddfa awyrennau a maes awyr bychan lle gallwch fynd am daith bleser a gweld Eryri o’r awyr.

Porth Oer

Porth Oer

Mae Porth Oer – neu ‘Whistling Sands’ fel y’i gelwir weithiau – yn draeth prydferth, cysgodol ar Benrhyn Llŷn. Ym mhle cafodd y traeth y llysenw anarferol hwn tybed? Ceisiwch stampio ar y tywod a byddwn yn siŵr o ddarganfod yr ateb… mae’n gwichian! Mae’r llwybr sy’n arwain i lawr i’r traeth yn eithaf serth (mae’r daith yn ôl i fyny yn teimlo’n waeth fyth) ond mae’n werth yr ymdrech – mae hwn yn lle gwirioneddol hardd i dreulio diwrnod cynnes o haf.

Ar wahân i’w draethau, mae gan Eryri ddigon eto i’w gynnig i ymwelwyr ifanc. Ceir cymaint o atyniadau addas i blant mae’n anodd gwybod ym mhle i gychwyn! Mae Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn ffefryn go iawn – mae’n barc hamdden ecogyfeillgar a’r prif atyniad yw’r reid ffigar-êt sy’n cael ei yrru gan bobl. Mae Gypsy Wood yn lle llawn hud a lledrith lle mae’r tylwyth teg yn byw… ewch am dro drwy’r pyllau dŵr yn y goedwig yn eich esgidiau glaw i chwilio am un (os na allwch weld un, peidiwch â digalonni – mae digon o weithgareddau eraill i’w cael yma gan gynnwys rheilffordd fechan ragorol a digon o anifeiliaid i roi mwythau iddynt). Anifeiliaid hefyd yw prif atyniadau dau le arall poblogaidd, Parc Fferm y Plant a Fferm Gwningod a Pharc Anifeiliaid Dwyfor.

Mae digon i gadw’r plant yn brysur yn Eryri hefyd. Beth am gael hwyl ar wifrau uchel yn y coed yn Tree Top Adventure? Neu fframiau dringo, pyllau peli a llithrennau anferth yn yr Hwylfan? Seiclo a maes chwarae antur yng Nghoed y Brenin, casglu cregyn ym Mochras, teithiau cerdded natur ym Mharc Gwledig Padarn… dyna’r dewis!

Gwyliau Treftadaeth    

Mae gan Eryri hanes hir ac mae’r ymwelwyr yn cytuno ei fod yn hanes  arbennig o ddiddorol. O gymunedau cynhanes i wleidyddiaeth ymarferol yr 20fed ganrif  –  a’r cyfnodau rhyngddynt  –  mae dwsinau o safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn Eryri.

Mae amryw byd o fryngaerau a siambrau claddu yn yr ardal. Un o’r enwocaf yw Tre’r Ceiri, sef pentref pen mynydd a ffynnai o gyfnod yr Oes Efydd gynnar. Gellir gweld olion tua 150 o adeiladau crynion yno heddiw, ac y mae’n werth yr ymdrech i gerdded i gopa’r mynydd i’r safle.

Bu’r Rhufeiniaid yn yr ardal hefyd. Gellir ymweld â Segontiun, caer a sefydlwyd gan Agricola tua 77 O.C. ar gyrion Caernarfon, a sefydlwyd Tomen y Mur, ger Trawsfynydd, tua’r un adeg.

Cyfnod Tywysogion Gwynedd oedd y Canoloesoedd, ac y mae digonedd o’u holion yn amlwg yn Eryri i goffáu digwyddiadau’r cyfnod. Cododd Edward I, brenin Lloegr, ‘gylch haearn’ o gestyll a threfi caerog yn yr ardal yn y cyfnod hwn, yn cynnwys cestyll Caernarfon a Chonwy. Ond yr oedd yna gestyll Cymreig hefyd, megis y rhai yng Nghricieth a Dolbadarn.

Mae cynrychiolaeth dda o dreftadaeth ddiwydiannol yn Eryri hefyd. Mae Melinau Gwlân Trefriw yn cynnig cipolwg ymarferol ar gynhyrchu tecstilau, a chaiff ymwelwyr weld yn union sut fywyd oedd bywyd chwarelwr (gan gynnwys Ysbyty Fictoraidd llawn offer) yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol. Mae gan y diwydiant llechi le amlwg iawn yn hanes Eryri, a gellir ymweld â llawer o atyniadau treftadaeth ddiwydiannol yn ymwneud â llechi. Mae Gwaith Llechi Inigo Jones yn cynnig teithiau hunandywys a gweithdai, a rhydd Llechwedd olwg unigryw a thanddaearol ar fywyd chwarelwr deuddeg oed yn oes Fictoria.

Mae gan reilffyrdd Eryri yn ogystal ran bwysig yn yr hanes lleol – yr oedd trenau stêm yn cludo llechi hyd yr ardal ac allan ohoni, a’r llechi hynny, maes o law, yn toi tai ym mhob cwr o’r byd – yn wir cyfeirid at Flaenau Ffestiniog fel ‘y dref a oedd yn toi’r byd’  –  oherwydd poblogrwydd ei llechi. Heddiw mae trenau stêm, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog, Rheilffordd Ucheldir Cymru, rheilffyrdd Tal-y-llyn a Fairbourne  –  ynghyd â llawer o rai eraill  –  yn cludo teithwyr yn hytrach na llechi, ac y maent ymhlith prif atyniadau Eryri.

A dyma ni yn y cyfnod diweddar, sef cyfnod y gwladweinydd o’r 20fed ganrif y cyfeiriwyd ato eisoes… pwy oedd hwnnw?  David Lloyd George wrth gwrs. Bu’n Brif Weinidog Prydain o 1916 hyd 1922, ac un o’i gyfraniadau oedd gosod sylfeini’r Wladwriaeth Les. Cafodd ei fagu yn Llanystumdwy, ac yno y mae’r amgueddfa sy’n dathlu ei fywyd a’i gyflawniadau drwy gyfrwng cyfres o arddangosiadau rhyngweithiol, gan gynnwys ystafell ddosbarth Fictoraidd, arddangosfeydd awdio-weledol, a gweithdy crydd.

Gan fod cymaint i’w weld a’i wneud, beth bynnag fo’ch oedran a’ch diddordebau, Eryri yw’r lle perffaith i dreulio penwythnos wrth eich bodd, dihangfa i’r teulu neu wyliau llawn gweithgareddau. #PackedForSnowdonia – ydych chi wedi hel eich paciau yn barod i gychwyn am Eryri?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s