Deg o Bethau Diddorol am yr Wyddfa

Yr Wyddfa

Yr Wyddfa

Dyma’r mynydd lle lladdodd Arthur gawr, lle bu troellwr disgiau yn ymarfer cyn dringo Kilimanjaro, lle mae blodyn prin yn tyfu a lle ceir ffosiliau o gregyn môr hynafol. Dyma’r Wyddfa – mynydd uchaf Cymru wrth gwrs – ond faint o’r ffeithiau hyn am yr Wyddfa Fawr oeddech chi’n eu gwybod?


Er mor hardd ac urddasol yw’r Wyddfa, mae’n hawdd ei weld fel dim ond talp o graig. Talp eithaf mawr o graig, rhaid dweud, ac un y mae cannoedd ar filoedd o bobl yn ei ddringo bob blwyddyn; ond eto, efallai na fyddech yn disgwyl i’r talp hwn o graig fod mor ddiddorol ag y mae mewn gwirionedd…

Byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu gan ein deg o ffeithiau diddorol am yr Wyddfa – allwch chi feddwl am fwy?

1. Mae maint yn hollbwysig

Yr Wyddfa – sy’n 1,085 metr neu 3,560 troedfedd o uchder, yw’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr (ond nid ym Mhrydain; Ben Nevis yn yr Alban sy’n cael yr anrhydedd honno). Mae’r Wyddfa yn un o fwy na 90 o gopaon uwch na 2,000 troedfedd yn Eryri, ac yn un o 15 copa sy’n uwch na 3,000 troedfedd.

Yr Wyddfa

Yr Wyddfa

2. Mae’r enw’n dweud y cyfan

Daw’r enw Saesneg “Snowdon” o’r Sacsoneg “Snow Dun”, sy’n golygu “bryn o eira”. Yn Gymraeg mae’r enw Yr Wyddfa yn fersiwn gryno o’r hen enw, Yr Wyddfa Fawr. Ar un adeg hefyd roedd yn cael ei adnabod fel Carnedd y Cawr. Mae’r enwau hyn yn awgrymu rhai o’r storïau mwy cyfriniol sy’n gysylltiedig â’r Wyddfa – rhagor am hynny yn nes ymlaen.

3. O’r môr i’r mynydd…

Bum can miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd yr Wyddfa ar wely’r môr (fel y tystiolaetha darnau o ffosiliau cregyn a ganfuwyd ar gopa’r mynydd). Mae’r Wyddfa ar stent ogleddol ‘Cromen Harlech’, sef nodwedd ffisegol hynaf Eryri yn ôl y sôn. Cafodd rhai o nodweddion neilltuol y mynydd eu llunio gan greigiau folcanig, tra bo llawer o’r dyffrynnoedd gerllaw wedi eu cafnu gan rewlifoedd.

Rheilffordd yr Wyddfa

Rheilffordd yr Wyddfa

4. I fyny fo’r nod (oni bai eich bod yn dod yn ôl i lawr)

Ceir chwe llwybr swyddogol i ben yr Wyddfa, ac maent yn amrywio o ran anhawster ac yn arwain at y copa o wahanol ochrau i’r mynydd. Y rhain yw : Llwybr Watkin, Llwybr Bwlch Llanberis, Llwybr y, Llwybr Pen y Gwryd, Llwybr Rhyd Ddu a’r Snowdon Ranger. Os nad yw cerdded yn opsiwn ichi neu i aelod o’ch grŵp yna mae trên yn dringo i’r copa, ac mae’n rhedeg o Lanberis (amseroedd a phrisiau i’w cael ar wefan Rheilffordd yr Wyddfa).

5. I grynhoi’r profiad…

Ar ôl cyrraedd y copa, a chan ddibynnu ar ba adeg o’r flwyddyn ydyw, efallai y byddwch yn gallu aros i orffwys a chael lluniaeth yn Hafod Eryri (gweler manylion ar wefan Rheilffordd yr Wyddfa). Os ydych yn ddigon lwcus i gyrraedd y copa ar ddiwrnod clir, manteisiwch ar y golygfeydd – efallai y byddwch yn gallu gweld 18 o lynnoedd a’r 14 copa dros 3,000 troedfedd y cyfeiriwyd atynt eisoes, ac ymhellach i ffwrdd efallai y byddwch yn gallu gweld Iwerddon, Ynys Manaw a hyd yn oed Ardal y Llynnoedd.

6. Eiddil fel lili…

Cafodd lili ei henwi ar ôl yr Wyddfa. Mae Lili’r Wyddfa – planhigyn eiddil arctig-alpinaidd a chanddo flodau gwynion a dail fel gwellt – yn tyfu yn uchel ym mynyddoedd Eryri ond ni chafodd ei chofnodi yn unrhyw le arall ym Mhrydain. Mae’n cael ei gwarchod gan y gyfraith, felly os ydych yn ddigon ffodus i weld un, peidiwch â chael eich temtio i’w thorri!

7. Chwilen o liwiau’r enfys

Ceir Chwilen yr Wyddfa hefyd. Mewn rhannau eraill o Ewrop mae’r chwilen fechan lachar hon yn cael ei galw’n Rainbow Leaf Beetle, oherwydd ei elytra streipiog llachar o goch, aur, gwyrdd a glas. Mae poblogaeth Chwilod yr Wyddfa yn Eryri yn isel iawn – oddeutu 1000 oedolyn yn unig.

Hafod Eryri

Hafod Eryri

8. Hen hen hanes

Fel yr awgryma’r hen enwau Cymreig, mae’r Wyddfa, ac yn wir holl ardal Eryri yn gysylltiedig â chwedlau a hanesion hynafol – yn arbennig y rhai am Arthur, a fu ac a fydd yn brenhin. Mewn un stori, lladdodd Arthur gawr o’r enw Ritta – ar lethrau’r Wyddfa, rhag bod y cawr yn dwyn ei farf i’w hychwanegu at ei gasgliad. Mewn hanes arall, mae corff Arthur yn gorwedd dan garnedd o gerrig – Carnedd Arthur – yn Nhregalan, tra bo’i farchogion, yn eu harfwisg llawn, yn huno mewn ogof ar Y Lliwedd. Maent i gyd yn disgwyl yr alwad i achub Prydain pan fydd mewn dirfawr angen am gymorth.

9. Galop galop a charlam

Yn yr hen ddyddiau, byddai twristiaid yn cael eu cario ar hyd Llwybr Llanberis ar ferlen neu ful. Mae’r llwybr hwn yn dal yn boblogaidd ymysg merlotwyr, a dyma’r rheswm pam y ceir cytundeb gwirfoddol â beicwyr mynydd i gadw oddi ar y llwybr hwn ar adegau prysur o’r flwyddyn.

10. Rydych mewn cwmni da

Mae mwy na 350,000 o ymwelwyr yn cyrraedd copa’r Wyddfa bob blwyddyn. Y cyntaf i gofnodi hyn oedd y botanegydd Thomas Johnson ym 1639, ac ers hynny mae llawer o bobl adnabyddus wedi concro’r mynydd, yn arbennig rhai sy’n ymarfer ar gyfer dringo mynyddoedd uchaf a mwyaf heriol y byd. Un o’r enwogion diweddaraf i ddringo’r Wyddfa oedd Chris Moyles, y cyn DJ ar BBC Radio One, a ddringodd yr Wyddfa gyda’i dîm tra’r oedd yn ymarfer ar gyfer taith i ben Kilimanjaro i godi arian at achos da.

One thought on “Deg o Bethau Diddorol am yr Wyddfa

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Dilyn Ffordd y Pererin Yn Eryri | Ymweld ag Eryri

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s