Tywysogion Gwynedd: Ar Drywydd Teulu Brenhinol Hynafol Eryri

Arddangosfa Tywysogion Gwynedd

Arddangosfa Tywysogion Gwynedd

Mae Arddangosfa Tywysogion Gwynedd yng Nghonwy yn llawn o arddangosfeydd rhyngweithiol ardderchog o fywyd a chyfnod y ffigurau hanesyddol pwysig hyn. Dyma ein hawgrymiadau ni ar gyfer rhai o’r safleoedd hanesyddol gorau sy’n gysylltiedig â Thywysogion Gwynedd.

Pan ydych chi’n meddwl am y ‘Teulu Brenhinol’, mae’n eithaf tebyg y byddwch yn meddwl am wraig fonheddig oedrannus o’r enw Elizabeth, ei gŵr Philip, eu plant Charles, Anne, Andrew ac Edward, ac amryw byd o wyrion ac wyresau (heb sôn am y gor-ŵyr a fydd yn cael ei eni’n fuan).

Ond ymhell cyn i unrhyw un o’r Windsoriaid eistedd ar yr orsedd Brydeinig, roedd gan ardal Eryri – hen Deyrnas Gwynedd – ei theulu brenhinol ei hun, ond daeth y deyrnas honno a’i hawdurdod i ben yn ddisymwth yn y 13eg ganrif diolch i Frenin Lloegr, Edward I, a benderfynodd y byddai’n well ganddo reoli Ynysoedd Prydain i gyd ar ei ben ei hun. Er yr honwyd yn ddiweddar fod hawl i orsedd Gwynedd (drwy Owain Glyndŵr yn y 15fed ganrif), a bod  ‘aer’ cyfredol nad yw’n gwneud unrhyw gais cyhoeddus i hawlio ei deitl, mae Tywysogion Gwynedd fel grym teyrnasu ysywaeth, wedi hen hen ddiflannu.

Yng Nghanolfan Groeso Conwy ceir arddangosfa drwy gydol y flwyddyn am Dywysogion Gwynedd, lle ceir amrywiaeth o arddangosiadau rhyngweithiol rhagorol sy’n adrodd hanes eu bywydau a’u cyfnod. Mae’r arddangosfa yn gyflwyniad o fath i gyfres o safleoedd ledled Gwynedd, Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri, sy’n gysylltiedig â Thywysogion Gwynedd.

Arddangosfa Tywysogion Gwynedd yw’r man cychwyn delfrydol os ydych yn ymddiddori yn hanes yr ardal. Ond wrth gwrs ceir sawl safle hanesyddol ym mhob rhan o Eryri sy’n gysylltiedig â Thywysogion Gwynedd; dyma rai na fyddwch eisiau eu colli.

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Mae Castell Dolbadarn yng ngwaelod Bwlch Llanberis ac yn edrych dros Lyn Padarn. Cafodd ei adeiladu gan Lywelyn Fawr ar ddechrau’r 13eg ganrif. Mae gorthwr crwn y castell yn cyrraedd hyd at 50 troedfedd (15.2m) o uchder ac yn cael ei ystyried yn un o’r enghreifftiau gorau o dŵr crwn Cymreig sy’n dal i sefyll.

Pan gipiodd Edward I y castell ym 1284, cymerodd rywfaint o’r coed a’u defnyddio i adeiladu Castell Caernarfon.

Mae Castell Dolbadarn dan ofal Cadw. Gallwch ymweld â’r castell am ddim – nid oes tâl mynediad.

Castell Dolwyddelan

Castell Dolwyddelan

Castell Dolwyddelan

Roedd Castell Dolwyddelan yn amddiffynfa strategol bwysig yn y mynyddoedd i Lywelyn Fawr, ac yn ddiweddarach, i’w ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd.

Mae’r gorthwr petryalog enfawr yn nodedig iawn, er bod tŵr petryalog mwy diweddar, a ychwanegwyd gan y Saeson, bellach yn adfail. Ar ôl i Edward I gipio’r castell ym 1283, arhosodd milwyr Lloegr yno am saith mlynedd arall cyn gadael y castell a chestyll eraill mewndirol tebyg iddo, am gestyll oedd yn haws eu cyrraedd ar y môr.

Tâl mynediad i Gastell Dolwyddelan (sydd dan ofal Cadw) yw £2.80 i oedolion, tra bo tocyn teulu yn costio £8.40.

Castell Cricieth

Castell Cricieth

Castell Cricieth

Nid yw’r eiliad honno pan yw Castell Cricieth yn dod i’r golwg, wrth ichi gyrraedd hen dref gysglyd Cricieth, byth yn peidio â bod yn wefreiddiol.  Mae fel tŵr anferth uwchben y môr ar ei graig anferth, gwarcheidwad llym ond cysurlon, ac adeilad y mae’r gair ‘trawiadol’ yn prin wneud cyfiawnder ag ef.

Llywelyn Fawr a ddechreuodd ar y gwaith o adeiladu’r castell, ond fel a ddigwyddai yn aml yn ystod yr amseroedd helbulus hynny, cafodd ei addasu yn sylweddol iawn gan Edward, dan oruchwyliaeth arbenigol ei bensaer, James of St George.

Mae’r castell dan ofal Cadw – mae pris mynediad yn £3.50 i oedolion a £10.50 i deuluoedd.

Castell y Bere

Castell y Bere

Castell y Bere

Dim ond rhith o gastell a welir bellach yng Nghastell y Bere – ond mae’r awyrgylch mor bwerus, mae’n werth ei gynnwys ar eith teithlen Tywysogion Gwynedd.

Cadw sy’n gyfrifol am yr adeilad hwn eto (mynediad am ddim hefyd) – Mae Castell y Bere yn un arall o gadarnleoedd Llywelyn Fawr.

Yn ôl y sôn mae ffigur unig,  annelwig i’w weld weithiau yn sefyll yng Nghastell y Bere yn y machlud ac wrth i’r haul sleifio o’r golwg heibio’r bryniau cyfagos, mae’r ffigur yn araf ddiflannu.

Dinas Emrys

Dinas Emrys

Dinas Emrys

Efallai mai dyma un o safleoedd mwyaf lledrithiol Eryri, gyda’i lu o gysylltiadau â chwedlau hynafol, ac wrth gwrs y cyswllt â’r Brenin Arthur sydd i’w weld yn eglur iawn yn yr ardal hon. Mae Dinas Emrys yn fryngaer hynafol a ail-fodelwyd ac a ailddefnyddiwyd sawl gwaith ers ei hadeiladu yn wreiddiol yn Oes yr Haearn.

Nid oes llawer o wybodaeth yn bodoli ynglŷn â’r cysylltiad â Thywysogion Gwynedd, serch hynny, cydnabyddir yn gyffredinol mai olion tŵr petryalog a godwyd gan Dywysogion Gwynedd yn y 11eg ganrif yw’r adfeilion carreg ar ben y bryn.

Mae Arddangosfa Tywysogion Gwynedd yng Nghanolfan Groeso Conwy yn agored bob dydd drwy’r flwyddyn. Yr oriau agor yn ystod y gaeaf yw 10am-4pm, ac yn ystod yr haf –  9am-5pm. Mae prosiect Tywysogion Gwynedd yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Bwrdeistref Conwy mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel rhan o Brosiect £19m Twristiaeth Treftadaeth Cadw ac sy’n cael ei ariannu i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru a chan Gronfeydd Cydgyfeirio’r UE.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s