Archwilio De Eryri: Bala, Dolgellau, Corris a Dinas Mawddwy

Dolgellau

Dolgellau

Rydym yn cael cipolwg ar drefi’r Bala, Dolgellau, Corris a Dinas Mawddwy yn Ne Eryri. Mae digon i’w weld a’i wneud yn y rhan brydferth hon o’r wlad.

Mae trefi’r Bala, Dolgellau, Corris a Dinas Mawddwy yn Ne Eryri wedi eu lleoli mewn ardal drawiadol o hardd, lle ceir llynnoedd, mynyddoedd, afonydd a fforestydd sy’n rhoi digon o gyfleoedd i grwydro yn yr awyr agored. Ac eto, mae arlwy o weithgareddau mwy hamddenol hefyd megis siopa, ymweld â safleoedd hanesyddol ac atyniadau addas i deuluoedd – digon i’ch cadw’n brysur ar ddiwrnodau pan fyddwch yn teimlo’n llai egnïol.

Beth am edrych ar rai o’r gweithgareddau a’r atyniadau mwyaf poblogaidd sydd gan Dde Eryri i’w cynnig i ymwelwyr.

Safleoedd hanesyddol

I’r rhai ohonoch sy’n ymddiddori mewn hanes, mae llawer o safleoedd hanesyddol yn Ne Eryri i’w hychwanegu at eich rhestr o leoedd sy’n haeddu ymweliad.

Bala

Bala

Mae Canolfan Dreftadaeth y Crynwyr yn Nolgellau yn rhoi cipolwg tra diddorol ar dreialon a chaledi cymuned y Crynwyr yn yr ardal yn ystod y 17eg ganrif.  Ar ôl cael eu herlid oherwydd eu cred, ymfudodd llawer iawn o Grynwyr i Pennsylvania i arfer eu crefydd yno mewn heddwch.

A thra byddwch yn Nolgellau, cofiwch edrych o’ch cwmpas a sylwi ar ba mor hen yw’r adeiladau. Mae gan dros 200 o adeiladau Dolgellau (yn cynnwys ffermdai, ysguboriau a hyd yn oed yr ysbyty lleol)  statws adeilad rhestredig – y crynodiad uchaf yng Nghymru.

Mae’r ardal o amgylch Dinas Mawddwy yn gyforiog o chwedlau’r Brenin Arthur. Er enghraifft, dywedir mai cae lleol – Camlann – oedd lleoliad brwydr olaf Arthur.

Mae cynllun strydoedd canoloesol y Bala yn dal yn amlwg iawn, ac os yw hanes Normanaidd a Chanoloesol o ddiddordeb arbennig i chi mae’n werth mynd i weld Tomen y Bala, gweddillion castell tomen a beili Normanaidd.

Cerdded

Mae De Eryri yn lle rhagorol i gerdded – mae cymaint o gefn gwlad gwefreiddiol i’w grwydro, mae’r dewis yn ddihysbydd!

Mae Llwybr Mari Jones yn y Bala (sydd, gyda llaw yn dref Croeso i Gerddwyr) yn boblogaidd iawn. Drwy ddilyn y llwybr 25-milltir hwn byddwch yn dod i ddeall pa mor anodd oedd taith y ferch ifanc i brynu Beibl ym 1800.

Os ydych chi’n chwilio am lwybrau cerdded i deuluoedd mae’n anodd curo Coed y Brenin (a chan ei bod yn ganolfan beicio mynydd bwysig, efallai yr hoffech dreulio rhan o’ch ymweliad ar ddwy olwyn yn hytrach nag ar ddau droed). Mae’r llwybrau cerdded a seiclo yn addas ar gyfer amryw o lefelau, a cheir maes chwarae antur rhagorol i blant hefyd.

Cadair Idris

Cadair Idris

Os oes arnoch awydd rhywbeth ychydig mwy heriol mae gennym ddau awgrym. Y cyntaf yw Bwlch y Groes, y bwlch uchaf ym mynyddoedd Cymru. Yr ail yw mynydd mawr Cadair Idris, y mynydd y dywedir bod y sawl sy’n cysgu arno yn deffro’n fardd neu’n wallgof y bore wedyn.

Hwyl i’r teulu

Os ydych chi’n ymweld â De Eryri gyda’r plant, mae digon o bethau i’w cadw’n brysur.

Mae Tŷ Siamas yn Nolgellau yn amgueddfa sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth werin Gymreig. Mae’n lle ymarferol tu hwnt; bydd plant yn cael cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol offerynnau a dysgu am dreftadaeth gerddorol Cymru yr un pryd.

Mae’r Ganolfan Technoleg Amgen yng Nghorris, ac yma byddwch yn dysgu popeth am fyw yn ecogyfeillgar ac yn cael cyfle i fynd am reid ar y rheilffordd glogwyn sy’n cael ei gyrru gan ddŵr (yn wir, un o’r rhai mwyaf serth yn y byd). Mae hwn yn atyniad arall ymarferol a llawn hwyl i blant.

Hefyd yng Nghorris ceir gwledd go iawn o bethau i’w gweld a’u gwneud yn Labyrinth y Brenin Arthur, lle ceir ffyrdd arloesol o ddweud hanesion campau’r rhyfelwyr hynafol yn Eryri ganrifoedd yn ôl – yn cynnwys taith mewn cwch tanddaearol drwy dwneli hynafol – mymryn yn arswydus ond hynod ddiddorol er hynny!

Taith drên arall gwerth ei chrybwyll yw’r rheilffordd stêm fendigedig sy’n rhedeg o amgylch Llyn Tegid yn y Bala. Mae hwn yn atyniad hwyliog i ymwelwyr o bob oedran.

Siopa

Os ydych chi’n mwynhau crwydro o amgylch siopau annibynnol a marchnadoedd traddodiadol, mae De Eryri yn lle perffaith i chi.

Canolfan Grefftau Corris

Canolfan Grefftau Corris

Yng Nghorris ceir Canolfan Grefftau Corris, lle cewch gyfle i bori a phrynu amrywiaeth o nwyddau cartref a wnaed â llaw yn cynnwys gemwaith, nwyddau lledr a chanhwyllau.

Ger y Bala mae Glassblobbery, lle mae nwyddau gwydr hardd yn cael eu gwneud yn y gweithdy a’u gwerthu yn y siop.

Yn Ninas Mawddwy ceir Melin Meirion sy’n gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau gwlân, anrhegion, cofroddion a llestri.

Ac mae Dolgellau yn dal i fod yn dref farchnad wirioneddol, gyda’i marchnad ffermwyr ar y trydydd Sul o bob mis ac ocsiwn ddodrefn a nwyddau cartref ar y trydydd dydd Iau o bob mis.

Chwaraeon Dŵr

Mae’r Bala yn adnabyddus fel Ardal y Llynnoedd Cymru, felly manteisiwch ar yr holl ddŵr drwy gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr cyffrous yn ystod eich ymweliad.

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Mae Llyn Tegid – y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru – yn nefoedd i unrhyw un sy’n mwynhau chwaraeon dŵr, ac mae’n bosibl hwylio, hwylfyrddio, canŵio a chaiacio. Yma hefyd ceir Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, sy’n cynnig amrywiaeth debyg o weithgareddau (a llawer o rai eraill) i deuluoedd ar ymweliad a grwpiau ysgol sy’n dod i aros yno.

Ac i’r rhai ohonoch sy’n hoffi cyffro gwirioneddol ceir y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yng Nghanolfan Tryweryn – dyma’r lle delfrydol os hoffech roi cynnig ar rafftio dŵr gwyn.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s