Trywydd Golff James Braid yng Ngogledd Cymru: Clwb Golff Aberdyfi

Clwb Golff Aberdyfi

Clwb Golff Aberdyfi

Mae James Braid, y cynllunydd cyrsiau golff a’r golffiwr o’r Alban, yn adnabyddus am gynllunio nifer o gyrsiau golff amlwg Prydain. Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar gwrs golff Braid yn Aberdyfi yn Eryri.

Roedd y golffiwr medrus James Braid (1870-1950) o’r Alban ac a enillodd y Bencampwriaeth Agored bum gwaith, hefyd yn un o gynllunwyr cyrsiau golff mwyaf yr ugeinfed ganrif. Mae gwaith mwyaf adnabyddus Braid o ran cynllunio cyrsiau i’w weld yn Gleneagles a Carnoustie, ond mae’n adnabyddus hefyd am gynllunio llawer mwy o gyrsiau gorau Prydain.

Mae cyrsiau Braid yn rhannu nifer o nodweddion cyffredin. Mae Braid yn adnabyddus am weithio gyda chynllun naturiol y tir lle adeiladwyd y cwrs, a chynnwys nodweddion naturiol y tir. Hefyd, mae llawer o’i gyrsiau yn defnyddio troeon cam, sy’n annog chwarae am safle ac sy’n gwobrwyo chwarae cywir.

Clwb Golff Aberdyfi

Clwb Golff Aberdyfi

Serch hynny, er gwaethaf amrywiaeth o nodweddion cyffredin, mae cyrsiau Braid i gyd yn amrywio o ran hyd a chymeriad.

Gellir dod o hyd i gyrsiau James Braid ym mhob cwr o Brydain; yn ogystal â chynllunio cyrsiau newydd, bu’n ailgynllunio a gwella llawer o gyrsiau oedd yn bodoli’n barod.

Yng Ngogledd Cymru, mae deg o gyrsiau golff a gafodd un ai eu cynllunio neu eu hailgynllunio gan James Braid. Heddiw, gellir chwarae’r rhain fel cyfres yn Nhrywydd Golff James Braid yng Ngogledd Cymru. Gwahoddir golffwyr sy’n chwarae pob un o’r deg i anfon eu cardiau wedi eu stampio er mwyn cael tystysgrif arbennig – ychwanegiad gwerth chweil i unrhyw lyfr lloffion neu gwpwrdd gwydr

Yn yr erthygl hon byddwn yn edrych ar gwrs Braid yn Aberdyfi ar arfordir Eryri.

Clwb Golff Aberdyfi

Mae Clwb Golff Aberdyfi yn faes golff pencampwriaeth18 twll nodweddiadol ar arfordir Bae Ceredigion, yn ne Eryri.

Mae Aberdyfi yn cael ei gyfrif fel y 11eg o 30 cwrs gorau James Braid. Gosodwyd y 18 twll gwreiddiol ym 1892, ac yn ddiweddarach cafodd y cwrs ei ailfodelu gan Harry Colt ym 1910, gan Herbert Fowler ym 1920, ac yn olaf gan James Braid ym 1931.

Golyga lleoliad arfordirol Aberdyfi, lle mae’r llanw yn newid yn gyson a’r gwyntoedd yn anwadal, y gall amodau fod yn ddiddorol, a dweud y lleiaf. Mae dewis y ffon gywir yn bwysig, bydd angen pob un o’r ffyn sydd gennych yn eich bag wrth chwarae yn Aberdyfi, a dywedir bod mwy nag un ffordd i’w chwarae. Ond da chi peidiwch â meddwl am Aberdyfi fel un sialens fawr – mae’n cynnwys 71 antur wahanol i ddweud y gwir, a byddwch eisiau eu blasu dro ar ôl tro.

Twll hynod

Grîn y 12fed twll yn Aberdyfi yw un o dyllau par 3 mwyaf heriol y DU. Fel yr eglura tîm rheoli’r cwrs, mae 12fed twll Aberdyfi yn “un par 3 heb ei debyg… Ar yr hirdaith tuag adref mae’r twll cymharol agos hwn mewn grîn a welir ar ben system o dwyni deinamig heb opsiynau taro diogel. Gydag ergyd fer neu i’r chwith bydd y bêl yn sgrialu i lawr ochr y tirffurf i leoliad bron yn anadferadwy tra bydd ergyd ar y dde yn lwcus iawn os bydd yn osgoi syrthio oddi ar ymyl y cwrs yn gyfan gwbl! Mae’r grîn ei hun yn ddymunol a gwastad felly, fel llawer o dyllau eraill ar y cwrs, mae birdie a bogey (neu waeth) yn mynd law yn llaw.”

Clwb Golff Aberdyfi

Clwb Golff Aberdyfi

Cyfleusterau

Mae tŷ clwb mawr modern Aberdyfi yn cynnig amrywiaeth ragorol o gyfleusterau, yn cynnwys ystafell fwyta, bar a lolfa; cysylltiad WI-FI am ddim; lolfa deledu gydag amrywiaeth o sianeli lloeren; ac ystafell gyfarfod.

Hefyd, mae gan Glwb Golff Aberdyfi ystafelloedd loceri ar gyfer dynion a merched, ystafell ymarfer pytio dan do, siop y pro a llety byngalo ar y safle.

Cynigion arbennig

Mae ‘pedair pêl’ gyda choffi a brechdan gig moch a phryd dau gwrs yn costio dim ond £49 y person.

Clwb Golff Aberdyfi

Clwb Golff Aberdyfi

Ffeithiau a ffigurau

Maint: 18 twll
6,454 llath par 72, SSS 71

Cyfeiriad: Ffordd yr Orsaf, Aberdyfi, Aberdyfi, LL35 0RT
Ffôn: +44 (0) 1654 767493

Yn yr ardal

Mae Aberdyfi ar arfordir prydferth Bae Ceredigion yn ne Eryri ac o fewn cyrraedd hwylus i dref hynafol Harlech gyda’i chastell canoloesol mawreddog; tref lan môr hardd Bermo; hen dref farchnad ddiddorol Dolgellau; ac un o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Eryri, sef Cader Idris. Yn ôl y sôn bydd unrhyw un sy’n treulio noson ar lethrau’r Gader yn deffro un ai’n fardd neu’n wallgof.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s