Deg o Eglwysi Mwyaf Diddorol Eryri

Cadeirlan Bangor

Cadeirlan Bangor

Pe gallai meini eglwysi Eryri siarad, byddai ganddynt stôr o hanesion difyr. Dyma ddeg ohonynt na fyddwch eisiau eu colli.


Er bod llawer o eglwysi Eryri wedi eu hadeiladu yn ystod y Canol Oesoedd neu yn ddiweddarach, cawsant eu sefydlu yn ‘Oes y Seintiau‘ – yn fras yn ystod y 5ed a’r 6ed ganrif. Mae nhw wedi goroesi er gwaethaf ymosodiadau’r Llychlynwyr a brenhinoedd Lloegr, esgeulustod a threigl amser – ac eto mae nhw’n dal yno i adrodd eu hanesion. A phe gallai eu meini siarad byddai’r rhain yn sicr o fod yn niferus a hynod ddiddorol.

Gyda llaw, gair ynglŷn â tharddiad y gair ‘llan’ – gair y byddwch yn ei weld mewn llawer o wahanol enwau lleoedd yng Nghymru: yn yr hen amser tir caeedig o amgylch llain o dir oedd ‘llan’, ond datblygodd y gair i olygu’r plwyf o amgylch eglwys – felly bob tro y gwelwch enw lle sy’n dechrau â ‘Llan-‘, y tebygolrwydd yw bod hen eglwys gerllaw..

Mewn ardal mor eang ag Eryri, wrth gwrs byddai’n amhosibl cyfeirio at bob hen eglwys yn yr ardal – felly beth am ganolbwyntio ar ddeg o’n ffefrynnau ni i ddechrau.

Eglwys St Hywyn, Aberdaron

Eglwys St Hywyn, Aberdaron

1. Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron

Mae Eglwys Sant Hywyn yn Aberdaron yn wirioneddol hen, a rhannau o’r adeilad yn dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif. Roedd RS Thomas, un o feirdd enwocaf y 20fed ganrif, yn ficer yn Sant Hywyn rhwng 1967 a 1978, a cheir arddangosfa amdano yn yr eglwys. Ceir yma hefyd feddfeini sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y bumed ganrif neu ddechrau’r chweched ganrif.

2. Eglwys Sant Tanwg, Llandanwg

Mae Eglwys Sant Tanwg yn Llandanwg, ger Harlech, yn sbecian rhwng y twyni tywod fel petai’n chware mig gyda’r ymwelwyr. Mae hon yn hen eglwys fechan hynafol a phrydferth, a gafodd ei hesgeuluso am ganrifoedd a’i defnyddio hyd yn oed gan bysgotwyr fel lle i sychu rhwydi. Mae’r eglwys wedi cael ei hadfer ac mae’n lle hardd a thawel sy’n werth ymweld ag ef.

Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

3. Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Roedd Eglwys Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr yn arhosfan bwysig i’r pererinion a deithiai i Ynys Enlli; yn wir haelioni’r pererinion a dalodd am y bensaernïaeth fawreddog, ac mae’r gist arbennig – y dywedir ei bod wedi ei cherfio o un darn o goed onnen – a ddefnyddid i gasglu trethi yn y canol oesoedd – yn dal i fod yn yr eglwys hyd heddiw. Chwiliwch am y deial haul sy’n dyddio’n ôl i’r 10fed ganrif yn y fynwent, a’r graffiti o gyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd dan do porth y fynwent.

4. Eglwys Sant Brothen, Llanfrothen

Mae oedran Eglwys Sant Brothen yn Llanfrothen yn destament i wydnwch y gymuned leol – mae adeiladwaith yr eglwys yn bennaf yn perthyn i’r 13eg ganrif gydag ychwanegiadau o’r 15fed-19eg ganrif, ond mae’r safle yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif o leiaf. Mae’r eglwys, sy’n segur erbyn hyn, yng ngofal Cyfeillion Eglwysi Heb Gyfeillion, ond bydd yn bosibl ichi ymweld â hi a’i harchwilio, hyd yn oed oni fydd gwasanaeth yno.

5. Eglwys y Santes Fair, Beddgelert

Mae Eglwys Y Santes Fair ym Meddgelert yn un o sefydliadau crefyddol mwyaf hynafol Cymru, ac fe ysgrifennwyd amdani hyd yn oed gan Giraldus Cambrensis (Gerallt Cymro), y croniclydd o’r Canol Oesoedd. Cafodd yr eglwys ei llosgi gan filwyr Edward I yn ystod ymosodiadau’r Saeson ar Gymru yn ystod y 13eg ganrif, felly ailadeiladodd Edward yr eglwys. Mae rhai rhannau o’i adeilad ef yn parhau i sefyll, ond erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r adeilad yn dyddio’n ôl i gyfnod Fictoria.

6. Cadeirlan Bangor

Mae gan Gadeirlan Bangor hanes eithaf byrlymus, ers sefydlu cell fynachaidd Sant Deiniol tua 525OC. Cafodd adeiladau cynharaf y safle eu dinistrio gan y Llychlynwyr, a chafodd yr eglwys Normanaidd a adeiladwyd yn eu lle ei llosgi gan y Brenin John ym 1210. Ar ôl cael ei hailadeiladu yn y 13eg a’r 14eg ganrif, cafodd Cadeirlan Bangor hefyd ei hatgyweirio yn ystod y 19eg ganrif – ond mae’n dal yn bosibl gweld nifer o nodweddion canoloesol gwreiddiol, felly mae’n werth mynd i weld yr eglwys.

7. Eglwys Sant Marc, Y Brithdir

Disgrifiwyd Eglwys Sant Marc, Y Brithdir, ger Dolgellau, fel “un o eglwysi’r cyfnod Celf a Chrefft mwyaf hynod ym Mhrydain” (Simon Jenkins yn “Wales: Churches, Houses, Castles” – Allen Lane/Penguin, 2008). “Lle byddai rhywun yn disgwyl gweld eglwys wledig syml mae hwn yn adeilad ymrithiol a thywyll Transylfanaidd yr olwg”, meddai Jenkins. Y tu mewn i’r eglwys sy’n cynnig rhagoriaeth. Mae’r arddull yn un Romanésg Eidalaidd, gyda bwâu a chloerau crwn, bedyddfaen o gopr morthwyliedig wedi ei addurno â rhosynnau ac angylion, a seddau côr yn gyforiog o gwningod, gwiwerod, llygod a thylluan.

Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan

Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan

8. Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan

Mae eglwys Sant Baglan, yn Llanfaglan ger Caernarfon, wedi ei lleoli mewn llecyn gwyllt a hardd ger Bae’r Foryd. Mae hon yn un arall o eglwysi hynod Eryri sy’n adeilad canol oesol, ond sy’n sefyll ar safle llawer mwy hynafol; mae carreg dros y drws yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif. Uwchben y waliau mewnol gwyngalchog ceir nenfwd o drawstiau gwreiddiol mae’n debyg, ac yn y cae gerllaw ceir ffynnon sanctaidd hynafol ac er bod hon wedi ei llenwi mae ei sedd garreg yn parhau i fod yno.

9. Eglwys Sant Gwynhoedl, Llangwnnadl

Ger Morfa Nefyn ar Benrhyn Llŷn mae Llangwnnadl, gyda’i heglwys fechan i bererinion a gysegrwyd i Sant Gwynhoedl. Yr hyn sy’n ddiddorol am Gwynhoedl yw ei fod yn fab i bennaeth o’r enw Seithenyn, a gafodd ei feio am foddi Cantre’r Gwaelod, a oedd yn ôl y chwedl ym Mae Ceredigion. Mae arysgrifau yn cofnodi claddu’r sant ac adeiladu’r arcêd ym 1520. Yn ôl y sôn dywedir fod pen y brenin sydd ar y bedyddfaen yn debyg i Harri’r Wythfed.

10. Eglwys Sant Twrog, Maentwrog

Un o’r pethau mwyaf difyr am Eglwys Sant Twrog ym Maentwrog, ger Blaenau Ffestiniog, yw chwedl y maen. Mae enw’r pentref yn cyfeirio at garreg Twrog. A beth yw’r chwedl? Cawr oedd Twrog a daflodd glogfaen i ddinistrio allor baganaidd. Llwyddodd i wneud hyn, a heddiw mae’r maen yn dal i fod yno, a dywedir bod ôl dwylo Twrog arni o hyd. Credir bod y coed yw yn y fynwent yn 1300 oed.

One thought on “Deg o Eglwysi Mwyaf Diddorol Eryri

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Dilyn Ffordd y Pererin Yn Eryri | Ymweld ag Eryri

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s