Rhamant Eryri: Deg Lle i Fwynhau Golygfeydd Rhamantus

rhosyn cochEisiau plesio eich cariad drwy fynd allan am ddiwrnod rhamantus? Nid oes raid mynd gam ymhellach nag Eryri, lle mae rhamant yn yr awyr drwy gydol y flwyddyn…


Mae tirwedd ac adeiladau hanesyddol Eryri ymysg yr harddaf ym Mhrydain. Hyd yn oed pan fydd yn glawio yn ddi-baid, mae’r golygfeydd yn y rhan hardd eithriadol hon o Gymru yn gwbl ysbrydoledig.

Wrth i mi ysgrifennu’r erthygl hon, rwyf yn eistedd mewn hen dŷ hir cerrig traddodiadol clyd ac yn edrych allan ar ddiwrnod gwlyb o Chwefror ar arfordir Eryri. Ac er bod yr olygfa heddiw – y diwrnod cyn Dydd Sant Ffolant, fel y mae’n digwydd – yn fwy tebygol o’n hatgoffa am rostir gwlyb a gwyntog Wuthering Heights nag am draethau trofannol heulog y mae sawl un yn breuddwydio amdanynt ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n sicr bod yma ramant na all cyrchfannau eraill, yn fy marn i, gystadlu ag ef.

Beth sy’n gwneud golygfa yn un ‘ramantus’? Wel, rhywbeth goddrychol yw hynny, wrth gwrs; ac ni fydd eich syniadau chi o anghenraid yn cyd-fynd â’m syniadau i. Ond i mi, byddai golygfa ‘ramantus’ yn gorfod cynnwys y gwyrddni sydd bob amser yn gorchuddio’r tir sy’n cael mwy na’i siâr o law. Mae i’w ganfod yn lliwiau toreithiog Natur; mewn mynyddoedd a choetiroedd hynafol, dyffrynnoedd dwfn afonydd ac mewn ŵyn bach newydd yn prancio yn y caeau; ac mae i’w weld yn yr adeiladau a godwyd gan ddyn ac sy’n crisialu gweledigaeth a dyheadau’r sawl a’u creodd, o arglwyddi rhyfel canoloesol i unigolion ecsentrig yr ugeinfed ganrif.

Ac ym mhle allwch chi ddod o hyd i weledigaethau rhamantus o’r fath yn Eryri? Ym mhob moleciwl, os edrychwch chi’n ddigon gofalus; ond am y tro, beth am lynu at ddeg o fy ffefrynnau i.

Pentref Portmeirion

Pentref Portmeirion

1. Pentref Portmeirion

Mae rhamant yn llifeirio ym Mhentref Portmeirion. Mae’r lliwiau – y lliwiau naturiol a’r rhai a osodwyd yno gan y sawl a gynlluniodd y pentref, sef Clough Williams-Ellis – yn creu ymdeimlad o gariad a llawenydd ac o fywyd heddychlon. Mae dyluniad a chynllun y lle, a’r ffordd y mae nodweddion naturiol ac adeiladau rhyfedd yn ymdoddi i’w gilydd fel na ellir gweld y ffiniau rhyngddynt, yn gwneud Portmeirion yn un o’r lleoedd mwyaf rhamantus ym Mhrydain i grwydro gyda’ch anwylyd. Rhaid bod yn galon galed iawn i ymweld â Phortmeirion heb gael eich llethu gan ramant!

2. Gerddi Bodnant

Mae Gerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy yn lle ardderchog i weld patrwm y tymhorau yn newid ac i foddio’r llygad ar fân wyrthiau natur. Dewch draw nawr i weld eirlysiau a chennin pedr cynnar, crafanc-yr-arth, camelia a rhododendron, collen ystwyth a gellysg. Digonedd o dyfiant newydd, beth allai fod mor rhamantus â hynny?

3. Brondanw

Plas Brondanw – dyma gartref teuluol Clough Williams-Ellis. Mae’r gerddi yn agored i’r cyhoedd ac yr un mor hardd â Phortmeirion ei hun. Gyda’r lawntiau perffaith a’r llwyni wedi eu tocio’n daclus yn union fel y gerddi yn Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud, mae Gerddi Plas Brondanw yn bleser rhamantus drwy gydol y flwyddyn.

The Fairy Glen

The Fairy Glen

4. The Fairy Glen (Ffos Noddun)

Mae’r enw The Fairy Glen yn rhamantus ynddo’i hun, ac yn creu delweddau o greaduriaid mytholegol gosgeiddig yn hedfan a gwibio drwy’r coed yn canu caneuon serch. Mae’n hawdd cyrraedd y fan hudolus yma ym Metws-y-Coed; a byddwch wedi eich swyno gymaint ar ôl cyrraedd, fel na fyddwch eisiau mynd oddi yno.

5. Glynllifon

Maenordy wedi ei adfer yn hardd o gyfnod y Rhaglywiaeth yw Glynllifon, yn union y tu allan i Gaernarfon. Mae ei goetir eang yn rhywle arall lle ceir awyrgylch bron yn arallfydol. Bydd y llwybrau yng Nglynllifon yn mynd â chi heibio hen ffolïau, llynnoedd prydferth, amffitheatr anferth o lechen a hyd yn oed hen feudwyfa. A choed wrth gwrs; ac mae crwydro law-yn-llaw dan eu cysgod, drwy garped o ddail ar ddiwrnod braf yn y gaeaf, yn odidog o ramantus.

6. Castell Dolbadarn

Ewch yn ôl ar daith am eiliad, i gyfnod sifalri lle’r oedd morynion teg yn disgwyl am gael eu hennill. Rhaid cyfaddef wrth gwrs fod y cyfnod canoloesol yn adeg greulon a bod Castell Dolbadarn, fel y rhan fwyaf o gestyll o’r cyfnod yn un a welodd lawer o dywallt gwaed a galar. Y cwbl sy’n weddill erbyn hyn, yw’r tŵr crwn 50 troedfedd sy’n edrych dros y llynnoedd a’r mynyddoedd yng nghanol Eryri. Ond i’r rhai ohonoch sydd â llygad i’w ganfod, mae rhamant freuddwydiol yn gysylltiedig â’r safle sy’n sicr o apelio at y marchog arbennig hwnnw neu at galon y forwyn.

Eglwys Llandanwg

Eglwys Llandanwg

7. Eglwys Llandanwg

Cafodd eglwys fechan hynafol Llandanwg, ger Harlech, ei hesgeuluso yn ddifrifol am ganrifoedd; ac am gyfnod cafodd ei defnyddio hyd yn oed fel lle i bysgotwyr sychu eu rhwydi. Ond ni ddaeth anobaith i’r eglwys fechan annwyl sy’n swatio yn y twyni tywod, ac erbyn hyn mae hi wedi cael ei hadfer gyda gofal nes ei bod yn parhau i adrodd ei hanes am rai cenedlaethau eto. Beth yw rhamant yr eglwys? Efallai y bydd angen ichi ddefnyddio eich dychymyg. Ar un llaw hanes yr adeilad, ac ar y llaw arall ei leoliad; ond os ewch yno â’r agwedd meddwl cywir, byddwch yn sicr o ddarganfod rhamant eich hun ym mhob carreg wyngalchog.

8. Castell Cricieth

Adeilad arall i danio’r dychymyg yw Castell Cricieth sy’n eistedd ar graig anferth yn ymwthio allan i’r môr. Mae’r golygfeydd yn odidog o’r safle uchel yma. Gallwch weld am filltiroedd ar ddiwrnod clir; ac mae mynyddoedd ac arfordir yn cystadlu am eich sylw. Mae cymaint i’w weld yma nes byddwch yn teimlo’n benysgafn. Mae traeth Cricieth yn un rhagorol hefyd ac yn ymledu yn ddi-ben-draw. Llythyrau caru yn y tywod; wel mae hynny’n sicr o fod yn rhamantus!

Aberdaron

Aberdaron

9. Aberdaron

Mae Aberdaron yn bentref pysgota hynafol hardd ar drwyn Penrhyn Llŷn ac yn llawn awyrgylch. O edrych ar ffotograff efallai na fyddech yn meddwl ei fod yn arbennig o ramantus; ond ni ellir anwybyddu ei hen hanes, a’r cysylltiad ag ynys sanctaidd Enlli lle claddwyd 20,000 o saint yn ôl y sôn – ynghyd â harddwch yr hen adeiladau a fyddai’n adrodd hanes neu ddau pe gallent siarad. Mynd am dro drwy’r pentref ac ar hyd y traeth, yna cwpanaid o siocled poeth o flaen tanllwyth o dân… ffordd syml ond arbennig iawn o ddathlu cariad.

10. Coed y Brenin

Mwy o goetir, a’r tro hwn yng Nghoed y Brenin yn Ne Eryri. “Ond canolfan feicio mynydd ydi hi?” meddwch chi; “ac nid yw beiciau mynydd yn rhamantus o gwbl!” A byddwn innau’n ateb – ia, dyna yw hi, a na, tydyn nhw ddim; ond mae mwy i Goed y Brenin na chwilio am wefr ar ddwy olwyn. Cerdded, a siarad ac anadlu yn yr awyr iach gogoneddus yna; dal dwylo, a chwerthin, a sylwi ar brydferthwch y tirwedd a’ch anwylyd. Nid oes rhaid i ramant fod yn rhywbeth mawreddog; dim ond bod yn rhywle, gyda’ch gilydd, yn hapus, dyna’r cwbl sydd ei angen.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s