Calan Gaeaf yn Eryri: Pum Gweithgaredd Arswydus yn Eryri

Calan Gaeaf yn Eryri

Calan Gaeaf yn Eryri

Wrth i’r nosweithau dywyllu’n gynt, rydym yn dechrau meddwl am ysbrydion a’r goruwchnaturiol. Sut ydym ni’n dathlu Calan Gaeaf yn Eryri? Darllenwch ymlaen!


Mae Calan Gaeaf yn un o hoff gyfnodau’r flwyddyn i’r hen a’r ifanc. Tra bo pobl ifanc yn mwynhau crwydro o amgylch eu hardal mewn gwisg ffansi, yn curo ar ddrysau ac yn gofyn am ‘’trick or treat’, i oedolion mae’n esgus da am barti mewn dillad hurt ac i fwynhau glasiad neu ddau!

Mae llawer o atyniadau Eryri yn cynnal digwyddiadau arbennig adeg Calan Gaeaf, ac mae rhai hen draddodiadau ac arferion, er nad ydynt mor boblogaidd ag y buont ryw ddau gan mlynedd yn ôl, yn dal i fodoli mewn rhai o ardaloedd gwledig Cymru.

Dyma rai awgrymiadau o ffyrdd o fwynhau Calan Gaeaf os ydych yn ymweld ag Eryri ddiwedd mis Hydref.

Plas Mawr

Plas Mawr

1. Tai lle ceir ysbrydion

Dywedir bod ysbrydion i’w cael mewn llawer o adeiladau yn Eryri. Ewch draw yn ystod y tymor arswydus a phwy a ŵyr. Gallech chwithau weld ysbryd!

Dywedir bod Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy yn un o’r mannau mwyaf arswydus yng Nghymru, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau brawychus yn digwydd yno, yn cynnwys drychiolaethau, synau a hyd yn oed arogleuon sy’n codi ofn – heb sôn am ysbryd ci a welir o bryd i’w gilydd.

Dywedir bod Castell Penrhyn hefyd yn gartref i amryw o ysbrydion (ceir blog cyfan am breswylwyr arallfydol y Penrhyn yn penrhynghosts.blogspot.co.uk).

Mae gan Blas Mawr a Thŷ Aberconwy – y ddau yng Nghonwy – bob math o hanesion dychrynllyd. Ac mae hefyd yn werth galw yn rhai o dafarndai Caernarfon os ydych yn gobeithio cael cipolwg ar ysbryd neu ddau; dywedir bod rhai yn aflonyddu ar yr Anglesey Arms ac ar y Black Boy.

2. Taith mewn trên sgrech

Yn anffodus ni fyddwch yn cael cyfle i deithio mewn trên sgrech go iawn yn Eryri – mae ein trenau stêm yn rhai gwir a chadarn iawn diolch am hynny – ond trefnir trenau arbennig bob amser gan o leiaf un o reilffyrdd stêm Eryri bob Calan Gaeaf.

Rheilffordd Talyllyn

Rheilffordd Talyllyn

Gellir dibynnu ar Reilffordd Talyllyn fel arfer am sioe dda adeg Calan Gaeaf. Er enghraifft, reidiau trên arswydus ar hyd y rheilffordd hyd at goedwig yr ysbrydion yn Nolgoch, gyda gwledd dau gwrs Calan Gaeaf i oedolion a bagiau anrhegion i’r plant, a gwobrau am y  lanterni pwmpen cerfiedig gorau a gwahoddiad i wisgo gwisg ffansi.

Gellir dibynnu ar Reilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru hefyd am hwyl adeg Calan Gaeaf. Gyda threnau yn rhedeg o Borthmadog a Chaernarfon, mae gweithgareddau yn cynnwys ymweld â gorsaf drên arswydus mewn coedwig fawr dywyll, tân gwyllt, gwisg ffansi a swper poeth.

Yn Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru a Rheilffordd Llyn Llanberis fel arfer ceir digon o hwyl adeg Calan Gaeaf – ewch i’w gwefannau i gael gwybodaeth.

3. Bod yn grefftus

Mae digwyddiadau crefftau Calan Gaeaf yn boblogaidd iawn yn Eryri. Un o’r prif ganolfannau lle gall plant fod yn greadigol (drwy’r flwyddyn – ac nid yn unig adeg Calan Gaeaf) yw Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd. Mae eu hamserlen ddychrynllyd yn cynnwys ‘creepy crafts’ lle gall blant wneud lanterni, ysbrydion a masgiau a chreu eu hysgubau Harry Potter eu hunain ac anifeiliaid anwes i wrachod. A sôn am wrachod, efallai y cewch gipolwg ar un neu ddwy ohonynt  – ynghyd â chreaduriaid rhyfedd eraill yn llechu yn y coed. Ceir stondin beintio wynebau a sioe hud a lledrith Galan Gaeaf, a chyfle i gyfarfod tylluanod go iawn. Dewch draw mewn gwisg ffansi ac fe gewch gwpanaid o siocled poeth am ddim i gynhesu eich esgyrn.

4. Partïon Calan Gaeaf

Mae parti celfyddyd Calan Gaeaf ffantastig yn y Clwb Hwylio Brenhinol yng Nghaernarfon na fydd y plant bach yn sicr eisiau ei golli; mae’n gyfuniad o gelf a chrefft gyda’r holl ffefrynnau parti arferol – gêmau, peintio wynebau a disgo – sy’n golygu y bydd plant yn cael eu difyrru yn llwyr yn ystod hanner tymor Calan Gaeaf.

Mae gan Fynydd Gwefru, yn Llanberis, hefyd barti Calan Gaeaf i blant, gyda gêmau, byrbrydau, diodydd a disgo, a gwobr am y wisg ffansi orau.

5. Dathlu Nos Galan Gaeaf

Yng Nghymru, diwrnod cyntaf y gaeaf yw Tachwedd 1af a’r noson gynt yw Nos Galan Gaeaf, pan fydd ysbrydion yn ymgasglu wrth groesffyrdd, mynwentydd a chamfeydd.

Mae llawer o hen draddodiadau Cymreig Calan Gaeaf wedi diflannu erbyn hyn, ond does dim i’n rhwystro rhag eu hadfywio !

Roedd gwneud coelcerth yn draddodiad ymysg teuluoedd, a byddai pawb yn gosod carreg a’i enw arni o amgylch y tân. Fore trannoeth, os oedd unrhyw un o’r cerrig hyn ar goll, byddai’n arwydd fod y person hwnnw yn marw yn ystod y flwyddyn.

Mae adrodd hanesion arswydus hefyd yn hen draddodiad. Un o’r hoff ffefrynnau adeg Calan Gaeaf yw hanes Yr Hwch Ddu Gwta, hwch ddu ddi-gynffon oedd yn crwydro’r wlad gyda gwraig heb ben. Yn ôl y traddodiad, byddech yn sicr o fod eisiau bod yn ddiogel dan do pan fyddai’r Hwch allan yn crwydro!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s