Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddiddorol am Drawsfynydd

Llyn Trawsfynydd

Llyn Trawsfynydd

Yn ddwfn ym mynyddoedd de Eryri, saif Trawsfynydd, pentref bychan cysglyd ar lan y llyn, sydd â hanes syndod o ddiddorol. Dyma ddeg peth y dylech ei wybod am Drawsfynydd.

Mae pentref distaw Trawsfynydd yn ne Eryri wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad prydferth a golygfeydd mynyddig godidog.

Gyda gwreiddiau hynafol yn ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd, mae’r pentref bychan hwn ar lan y llyn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg yng Ngwynedd – felly dyma’r lle perffaith i aros os hoffech chi fireinio’ch sgiliau Cymraeg y tro nesaf y byddwch yn dod i ymweld ag Eryri.

Dyma ddeg ffaith ddiddorol am Drawsfynydd, i’ch rhoi ar ben eich ffordd.

1.Llwybr fasnachu hynafol

Mae Trawsfynydd yn agos at lwybr fasnachu o’r Oes Efydd, lle troediodd ein cyndeidiau yn ôl ag ymlaen i Iwerddon a thua Wiltshire, sef canolfan ddiwylliannol Prydain ar y pryd ôl bob sôn. Ceir digon o garneddau, megalithau, ac olion tai crwn a chytiau o gwmpas y lle i awgrymu’n gryf bod setliadau cynhanesyddol yn ardal Trawsfynydd.

2. Dros y Mynydd

Mae Trawsfynydd yn golygu dros y mynydd yn Gymraeg. Dywed rhai mai’r Rhufeiniaid a enwodd y pentref: “Trans Mons” yn Lladin, sydd hefyd yn golygu “dros y mynydd”. O ystyried bod Trawsfynydd yn sefyll mewn dyffryn rhewlifol, wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd, mae’r enw yn gweddu’n dda! Fodd bynnag, i ddrysu pethau rhywfaint, awgrymwyd hefyd y bu enw arall ar Drawsfynydd unwaith, sef “Llan Eden Owain” neu “Llanednowain”.

Trawsfynydd

Trawsfynydd

3. Tomen y Mur

Dafliad carreg o Drawsfynydd mae Tomen y Mur, sef setliad milwrol Rhufeinig ar gopa’r mynydd yn edrych allan dros y pentref. Sefydlwyd Tomen y Mur ar ddiwedd y ganrif gyntaf ar ôl Crist, ac roedd wedi’i feddiannu tan yr ail ganrif o leiaf. Hyd yn oed ar ôl i’r Rhufeiniaid ei adael, rhoddwyd einioes newydd i’r safle pan fu byddinoedd y Normaniaid yn gwersylla yno, gan atgyfnerthu amddiffynfeydd y gaer o bosibl, yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg neu ddechrau’r deuddegfed ganrif. Gellir gweld adfeilion y muriau hyd heddiw.

4. Hanes haearn

Nid y Rhufeiniaid a phobl yr Oes Efydd oedd yr unig rai i ymgartrefu yn Nhrawsfynydd a’r cyffiniau. Yng Nghracwellt, gellir hefyd gweld olion setliad o’r Oes Haearn (tua dwy filltir i’r de o Drawsfynydd). Prif swyddogaeth Cracwellt oedd cynhyrchu haearn, a hynny o oddeutu 300 cyn Crist hyd at y feddiannaeth Rufeinig. Ychydig iawn o Gracwellt sydd wedi’i gloddio hyd yma (tua 2%), serch hyn, canfuwyd ambell drysor diddorol. Gellir gweld y rhain ym Mhlas Tan y Bwlch.

5. Hedd Wyn

Ganwyd Ellis Humphrey Evans – neu’r prifardd Hedd Wyn i’w alw wrth ei enw barddol – yn Nhrawsfynydd ym 1887. Fel cynifer o ddynion ifanc eraill, cafodd Hedd Wyn ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a hynny ym Mrwydr Passchendaele. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno yn Birkinhead, enillodd y Gadair ar ôl ei farwolaeth, a chafodd y Gadair ei gorchuddio â lliain ddu.

Llyn Trawsfynydd

Llyn Trawsfynydd

6. Gwlad y gân

Ceir dau gôr lleol, â’r rhan fwyaf o’u haelodau yn hanu o Drawsfynydd. Sefydlwyd Côr Meibion Prysor ganol y 1960au, a sefydlwyd Côr Llefaru Bro Hedd Wyn er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ym 1997, gan fynd yn ei flaen i gipio’r ail wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am dair blynedd yn olynol.

7. Llys Ednowain

Mae gan Drawsfynydd ei chanolfan ymwelwyr ei hun, sydd hefyd yn hostel. Mae gan Lys Ednowain arddangosfa amlgyfryngau anhygoel yn disgrifio hanes Trawsfynydd ac am y prifardd Hedd Wyn. Yn Llys Ednowain, gallwch hefyd ddysgu mwy am y setliadau o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn, a gweld replica o Dancard Trawsfynydd.

8. Y Sant John Roberts

Roedd y Sant John Roberts yn un o 40 o Ferthyron Cymru a Lloegr a gafodd eu canoneiddio ym 1970. Ganwyd y Sant John Roberts yn Rhiwgoch, Trawsfynydd, ym 1577, a’i fagu’n Brotestant ond trodd i Gatholigiaeth ar ôl teithio’r cyfandir. Ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr ar ôl diddymiad y mynachlogydd. Ar ôl gwneud enw i’w hun yn gofalu am y rheiny a oedd yn ddioddef o’r pla, yn y pen draw cafodd y Sant John Roberts ei grogi yn Llundain am uchel frad.

9. Trawsfynydd ar y sgrin fawr

Gyda’i thirlun dramatig, mae Eryri yn ardal wych i’w dal ar gamera ac mae wedi bod yn gefnlen ar gyfer amryw ffilmiau Hollywood. Mae Trawsfynydd ei hun wedi serennu mewn ambell un. Cafodd y ffilm fawr ‘First Knight’, a oedd yn cynnwys Richard Gere a Sean Connery, ei ffilmio o gwmpas Llyn Trawsfynydd. Cafodd y ffilm Hedd Wyn hefyd ei ffilmio o gwmpas Trawsfynydd.

10. Pysgota

Ni allwn beidio â sôn am y cyfleoedd rhagorol i bysgota yn Llyn Trawsfynydd. Dyma’r llyn mwyaf yng Nghymru ond dau, ac mae’n llecyn poblogaidd iawn gyda genweirwyr sy’n mopio ar y prydferthwch o’u hamgylch a’r stoc iach o frithyll cynhenid, brithyll seithliw, draenogod dŵr croyw a rhuddbysgod.  Mae Cymdeithas Genweirwyr Prysor yn rheoli pysgota yn y llyn, a chaniateir pysgota o 8am hyd awr wedi machlud haul.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s