Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddiddorol am Ddolgellau

Dolgellau

Dolgellau

Mae Dolgellau yn cyfuno’r orau o ddau fyd: gweithgareddau awyr agored di-ri a thref hanesyddol brydferth i’w chrwydro. Dyma ddeg peth y dylech ei wybod am Ddolgellau.

Mae Dolgellau yn dref farchnad brydferth yn ne Eryri. Mae’r dref wedi bod yma ers canrifoedd a chanddi ddigon o adeiladau rhestredig yn brawf o hynny!

A hithau’n dafliad carreg o rai o fannau agored mwyaf poblogaidd de Eryri – mynydd mawreddog Cadair Idris, coedlan ogoneddus Coed y Brenin, a thraethau bendigedig Tywyn ac Abermo – does dim syndod bod Dolgellau yn ganolfan boblogaidd i’r rheiny sy’n ymweld â’r ardal.

O Ddolgellau, rydych o fewn cyrraedd hawdd i lawer o safleoedd hanesyddol hudol, atyniadau diwylliannol a gweithgareddau cyffrous Eryri, felly dyma’r lle perffaith i aros os ydych chi’n chwilio am gymeriad, croeso cynnes a mynediad at bopeth sydd gan Eryri i’w gynnig. Ond cyn i chi bacio’ch bag, byddwch am wybod ambell ffaith am Ddolgellau – felly dyma ddeg i’ch rhoi chi ar ben eich ffordd.

Adeiladau Dolgellau

Adeiladau Dolgellau

1. Ar frig y rhestr

Ar frig y rhestr, mae adeiladau rhestredig Dolgellau. Mae mwy na 200 o adeiladau rhestredig yn Nolgellau – sef y casgliad mwyaf o adeiladau rhestredig yng Nghymru. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys ffermdai, ysguboriau, Neuadd y Sir a hyd yn oed yr ysbyty lleol.

2. Gŵyl Cefn Gwlad

Bob haf, mae Dolgellau yn croesawu ei Gŵyl Cefn Gwlad, sef digwyddiad i godi arian sy’n gyfuniad o sioe amaethyddol a gŵyl bentref. Cynigir mynediad am ddim, ac yna caiff yr arian a godir gan y stondinau (gan gynnwys raffl a thombola) ei roi at achosion da.

Coed y Brenin

Coed y Brenin

3. Hwyl a sbri ar geffyl haearn

Mae Dolgellau yn “ganolfan gwyliau beicio” gydnabyddedig, sydd â chyfoeth o lwybrau beicio yn nadreddu o gwmpas y lle. I’r rheiny sydd am roi cynnig ar feicio mynydd, mae Coed y Brenin nepell i ffwrdd. Coed y Brenin, wrth gwrs, yw canolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain, felly rydych chi’n gwybod y cewch chi brofiad i’w gofio yno!

4. Dirgelwch hanesyddol

Ceir tair bryngaer o gwmpas Dolgellau, nad oes neb yn sicr o’u tarddiad. Ac er bod ceiniogau Rhufeinig o oes Hadrian a Trajan wedi’u darganfod ger Dolgellau, nid oes unrhyw dystiolaeth o gaer Rufeinig ar safle’r dref (efallai gan y byddai’r ardal honno wedi bod yn gorsiog yn oes y Rhufeiniaid).

5. Taeogion

Mae’n debyg bod hanes Dolgellau – fel tref, hynny yw – yn dechrau rhywbryd yn ystod yr Unfed ganrif ar ddeg neu ddechrau’r deuddegfed ganrif, pan oedd yn faerdref. Roedd Dolgellau yn faerdref tan deyrnasiad Harri Tudur o leiaf (1485-1509).

6. Tywysog Cymru

Fe fu i’n Harwr Mawr, Owain Glyndŵr, Tywysog olaf Cymru, arwain cyngor o Arglwyddi yn Nolgellau yn ystod y gwrthryfel cenedlaethol yn 1404. Er bod yr adeilad a ddefnyddiwyd gan Glyndŵr ar gyfer y cyfarfodydd eisoes wedi’i ddymchwel, erys stryd sy’n dwyn ei enw, ac felly mae ei bresenoldeb i’w deimlo yn y dref o hyd, ganrifoedd yn ddiweddarach.

7. Ysbeilwyr a gwylliaid

Mae nifer o enwau lleoedd ac adeiladau yn ardal Dolgellau yn gysylltiedig â Gwylliaid Cochion Mawddwy, sef ysbeilwyr enwog yr ardal yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r rhain yn cynnwys Llety’r Gwylliaid a Llety’r Lladron ger Bwlch Oerddrws. Ceir hefyd dafarn ym Mallwyd o’r enw’r ‘Brigands Inn’.

8. Brwydr olaf Arthur

Nepell o Ddinas Mawddwy, i’r de o Ddolgellau, mae cae o’r enw Camlan. Yn ôl yr hen chwedlau, yn y cae hwn y bu i’r Brenin Arthur ymladd ei frwydr olaf. Mae dwsinau o chwedlau Arthuraidd sydd â’u gwreiddiau yn ardal Eryri, gan gynnwys dau safle sy’n honni mai dyma leoliad  ‘y frwydr olaf’. Bydd yn rhaid i chi benderfynu dros eich hun pa straeon sy’n wir!

9. Alltudion

Roedd erledigaeth crefyddau lleiafrifol yn gyffredin ac yn ffyrnig yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Mor ffyrnig, yn wir, y bu i’r rhan fwyaf o Grynwyr Dolgellau ymfudo i Pennsylvania ym 1689 o dan arweinyddiaeth Rowland Ellis, ffermwr bonheddig a oedd yn byw ar gyrion Dolgellau. Erys cysylltiad cryf rhwng Dolgellau a Pennsylvania hyd heddiw.

Coed y Brenin

Coed y Brenin

10. Aur y byd!

Nid oes llawer o aur ar ôl yn Nolgellau heddiw – os o gwbl. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd mwynfeydd aur Dolgellau yn fwrlwm o weithgarwch wrth iddynt gloddio am y cyfoeth a drigai yn y ddaear. Gan fod aur Cymru mor arbennig o brin, mae’n hynod ddrud o’i gymharu ag aur ‘arferol’. Mae priodferched Brenhinol – gan gynnwys y Frenhines, y Fam Frenhines, Tywysoges Diana a Kate Middleton – oll yn gwisgo modrwyau priodas wedi’u saernïo o aur Cymru.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s