Bala: Hanes Bras

Y Bala

Y Bala

Roedd y Bala, sef tref farchnad yn ne Eryri, yn gartref i’r Rhufeiniaid, tywysogion canoloesol a beirdd o fri. Dyma gipolwg bras ar hanes hir a difyr y dref hon.

Tref farchnad yn ne Eryri yw’r Bala. Er gwaethaf ei hanes cyfoethog a diddorol, sy’n ymestyn yn ôl i oes y Rhufeiniaid, mae bellach yn fwy adnabyddus am yr amryfal chwaraeon dŵr  a gynhelir ar ddyfroedd Llyn Tegid, ar gyrion y dref.

Os ydych chi’n credu hen chwedlau ein cenedl, ffurfiwyd Llyn Tegid – sef llun naturiol mwyaf Cymru – pan gynhaliodd tywysog cas a chreulon, Tegid, barti i ddathlu genedigaeth ei ŵyr. Roedd holl daeogion mwyaf milain Tegid yno’n yn dathlu gydag ef. Cafodd telynor gorau’r wlad ei alw i ganu’r delyn yn y parti. Yn ystod ei berfformiad, daeth aderyn bychan ato a sibrwd yn ei glust gan ei rybuddio i ffoi. Dihangodd y telynor y noson honno wrth i weddill y Llys fynd i’w gwlâu, a threuliodd y noson yn cysgu ar ochr mynydd cyfagos. Pan ddihunodd yn y bore, roedd y dref wedi diflannu, a lle gynt safai’r dref, y cyfan a welsai oedd Llyn Tegid.

Llyn Tegid, y Bala

Llyn Tegid, Y Bala

Er mor ddifyr yw’r straeon tylwyth teg am darddiad Bala a Llyn Tegid, difyrrach fyth yw gwir hanes y dref hon. Fe wyddwn, er enghraifft, fod y Rhufeiniad wedi bod yno. Canfuwyd olion o leiaf dwy gaer Rufeinig yn yr ardal – yr enwocaf ohonynt yw Llanfor a Chaergai. Mae’r ddwy gaer wedi cael eu harchwilio’n helaeth, er bod rhan o Gaergai wedi’i difrodi ar ddamwain wrth adeiladu maenordy ac adeiladau fferm ar y safle fferm ganrifoedd yn ôl.  Roedd y maenordy hwn, gyda llaw, yn gartref i fardd enwog o Gymro, Tudur Penllyn (1420-1490).

Un o’r strwythurau hynaf sy’n dal i sefyll yn y Bala yw Tomen y Bala, sef olion hen gastell mwnt a beili Normanaidd, a fyddai yn ei anterth, wedi’i amgylchynu gan ffos. Credir bod Llywelyn ap Iorwerth, Tywysog mawr Gwynedd yn y canoloesoedd, wedi meddiannu Tomen y Bala ddechrau’r 13eg ganrif. Heddiw, erys y domen, er bod yr adeiladau (a fyddai wedi’u gwneud o bren) wedi hen fynd. Os ewch ati i ddringo i ben y domen, cewch fwynhau golygfeydd godidog dros y dref a’r cyffiniau.

Y Bala

Y Bala

Cafodd y Bala yr ydym ni’n ei hadnabod heddiw ei sefydlu drwy Siarter Brenhinol tua’r flwyddyn 1310, a hynny gan Roger de Mortimer o Gastell y Waun. Roedd y strydoedd canoloesol yn gyfres o lysoedd sgwâr, lle cynhaliwyd y marchnadoedd. Hyd heddiw, y rhain, ynghyd â’r Stryd Fawr, yw ffocws y dref, a phrin iawn y mae cynllun y dref wedi newid ers dyfarnu’r siarter.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd y Bala yn ganolfan ar gyfer y diwydiant gwau ac yn un o’r lleoedd gorau yn y byd ar gyfer cynhyrchu menig, hosanau, gwlanen a hosanwaith. Roedd marchnad wau yn y dref, a phan oedd y diwydiant yn ei anterth, roedd bron i bob copa walltog yn y Bala yn ennill ei fywoliaeth drwy wau.

Un o ‘enwogion’ mawr y Bala yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y Parchedig Thomas Charles. Roedd y Parchedig yn awdur diwinyddol adnabyddus a fu’n rhan allweddol o’r gwaith o greu Cymdeithas y Beibl, a sefydlwyd i sicrhau bod modd i bawb berchen ar Feibl. Digwyddodd hyn ar ôl i ferch ifanc o’r enw Mary Jones, gynilo ei harian am chwe blynedd ac yna cerdded 25 milltir o’i chartref i dy’r Parchedig Charles yn y Bala, er mwyn prynu Beibl. Cewch ddilyn ôl troed y ferch hon heddiw wrth droedio Llwybr Mary Jones – er na fydd yn rhaid i chi gerdded yn droednoeth fel Mary druan!

Ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd un o drigolion enwog eraill y Bala, Michael D Jones, wedi laru ar gyflwr crefydd a’r gymdeithas yng Nghymru. Aeth ati felly i gynllunio i bobl o Gymru greu bywyd newydd i’w hunain ym Mhatagonia. Symudodd mwy na 150 o Gymry i Ddyffryn Camwy, ac mae’r gymuned glòs hon yn Ne America yn ffynnu hyd heddiw, gyda’r Gymraeg yn cael ei siarad ochr yn ochr â’r Sbaeneg.

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Union 90 mlynedd yn ôl, aeth un o feibion enwog eraill y Bala, sef Ifan ab Owen Edwards, ati i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Crëwyd yr Urdd er mwyn i bobl ifanc Gymraeg eu hiaith gadw’r iaith yn fyw drwy weithgareddau awyr agored ac eisteddfodau. Mae un o ganolfannau addysg a digwyddiadau awyr agored yr Urdd – Glan-llyn – i’w chanfod ar lan Llyn Tegid, ac mae yno groeso i bawb ymuno yn yr hwyl.

Fel yr ydym wedi gweld, mae mwy o lawer i’r Bala na’r farchnad wythnosol a’r stryd fawr. Mae’r Bala yn dref groesawgar â chanddi hanes hir a difyr. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld ag Eryri, beth am dreulio ychydig o amser yno? Ydi, mae’n dref fechan, ond mae ganddi hanes mawr!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s