Eryri Ddirgel: Llên Gwerin Rhyfeddol Gogledd Cymru

Wrth i Galan Gaeaf nesáu, bydd ein meddyliau’n troi tua’r mytholegol, yr hudol a’r dirgel.  Dyma ddetholiad o lên gwerin rhyfeddol o Eryri

Cantre’r Gwaelod

Mewn ardal fel Eryri, ble mae’r hanes yn dyddio’n ôl dros filoedd o flynyddoedd, mae atgofion gwerin o ddigwyddiadau real yn newid mymryn o genhedlaeth i genhedlaeth, hyd nes i’r straeon gwreiddiol gael eu gweddnewid yn rhywbeth cwbl drawiadol.

Un enghraifft o’r fath yw chwedl Cantre’r Gwaelod – teyrnas fytholegol wedi suddo oddi ar arfordir Aberdyfi, neu yn y cyffiniau, ym Mae Ceredigion.

Yn ôl y chwedl, gadawyd y llifddorau heb unrhyw un yn edrych ar eu hôl wedi i Seithennyn, ceidwad y llifddorau, yfed gormod a syrthio i gysgu.   Llifodd y môr i mewn i’r deyrnas a’i boddi, ynghyd â phawb a drigai yno.

A yw tarddiad y stori hon i’w gael mewn atgof gwerin o arfordir a oedd yn newid ar ddiwedd oes yr iâ ddiwethaf, wedi’i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth hyd nes ei bod wedi datblygu’n chwedl am ddinas wedi suddo ble mae modd clywed y clychau rhybudd yn canu ynghanol y môr hyd heddiw?

Aber Dyfi

Yn wir, mae peth tystiolaeth bod rhywbeth allan yno; mae digon o sôn mewn dogfennau am y goedwig hynafol sydd wedi suddo dan y môr ym Mae Ceredigion.  Fodd bynnag, does wybod p’un a oedd teyrnas gyfan i’w chael yno erioed ai peidio.

Mae’n ddigon hawdd awgrymu mai digwyddiad real, megis storm neu ddiwedd oes yr iâ, yw tarddiad atgof gwerin a drawsnewidiodd i chwedl Cantre’r Gwaelod.  Ond, nid yw tarddiad rhai enghreifftiau eraill o lên gwerin rhyfeddol Eryri mor hawdd i’w ganfod.  Mae stori’r ysgyfarnog hudol yn un enghraifft o’r fath…

Yr Ysgyfarnog Hudol

Fel y gŵyr pawb, gall gwrachod drawsnewid eu hunain yn unrhyw anifail o’u dewis.  Yn sicr, roedd gwrach a oedd yn byw yn Llanfrothen gyda’i ŵyr, Ifan, yn meddu ar y sgil hon.

Pan dyfodd Ifan yn ddyn, daeth yn enwog yn yr ardal fel curwr helfilod medrus, a chawsai ddigonedd o waith o ganlyniad i hynny.  Waeth beth oedd yr amgylchiadau, waeth cyn lleied o helfilod a oedd o gwmpas, llwyddai Ifan i godi rhywbeth o’r llwyni i’r arglwyddi lleol ei hela.

Ond, ar ôl peth amser, dechreuodd yr helwyr sylwi bod rhywbeth rhyfedd yn digwydd.  Roedd hi’n ymddangos bod Ifan yn codi ysgyfarnog fawr iawn yn rheolaidd, ac fe redai’r ysgyfarnog mor gyflym ac roedd mor gyfeiliornus, fel na chawsai ei dal.  Roedd yr arglwyddi a oedd yn hela yn sicr mai’r un ysgyfarnog oedd hon bob tro, a chan fod pobl mor ofergoelus yn yr oes honno, amheuwyd mai dewiniaeth oedd ar waith.

Pan aeth yr helwyr at yr offeiriad lleol i ofyn am help, fe’i cynghorodd mai’r unig ffordd iddynt ddal ysgyfarnog hudol oedd â chi du heb yr un blewyn gwyn yn unman ar ei gorff.  Llwyddodd yr arglwyddi i ddod o hyd i gi o’r fath, a’r diwrnod canlynol, fe gyflogasant Ifan unwaith eto i ddenu helfilod. Cyn hir, rhuthrodd yr ysgyfarnog allan a rhedodd yr helwyr a’u ci newydd ar ei hôl.  Doedd waeth ble’r ai’r ysgyfarnog – dan lwyni, drwy ffosydd – roedd y ci du wrth gwt yr ysgyfarnog, ac wrth i’r ysgyfarnog flino llwyddodd y ci i frathu un o’i choesau ôl, nes bod y goes yn gwaedu.

Mewn panig, rhedodd yr ysgyfarnog mewn cyfeiriad gwahanol a rhedodd nerth ei thraed i dŷ nain Ifan.  Rhuthrodd yr helwyr i mewn i’r tŷ a dyna ble’r oedd yr hen wraig yn eistedd yn ei chadair, ei gwynt yn ei dwrn a gwaed yn llifo o’r ôl brathiadau ar ei choesau mwdlyd.  Yn amlwg, ni weithiodd Ifan fel curwr fyth wedyn.

Gwiber Penmachno

Nid yw creaduriaid hudol Eryri wedi’u cyfyngu i greaduriaid pob dydd, megis ysgyfarnogod, yn unig.  Mae’r anifeiliaid mytholegol yr un mor rhyfeddol a’r anifeiliaid go iawn.  Un creadur o’r fath yw’r Wiber, sef “Viper” yn Saesneg, ond mae’r Wiber hon dipyn gwahanol i’r rhai yr ydych wedi’u gweld ar raglen bywyd gwyllt ar y teledu neu mewn sw.

Roedd Gwiber Penmachno, Dyffryn Conwy, yn fwystfil erchyll.  Yn hanu o wiber go iawn, gallai Gwiber Penmachno, pe yfai laeth menyw, dyfu’n llawer mwy a thyfu adenydd.  Roedd yn rhyw fath o gyfuniad o ddraig a sarff; ond roedd yn frawychus waeth pa enw a roddech iddi!

Penderfynodd gwylliad y buasai’n gamp hynod i gael lladd y Wiber – rhywbeth i frolio yn ei gylch i’w ffrindiau – ac ni gymrodd unrhyw sylw o broffwydoliaeth dewin lleol a’i rhybuddiodd y gallai’r dyn farw o frathiad gwiber, o dorri ei wddf ac wrth foddi drwy ymosod ar y Wiber.  Wedi’r cwbl, meddyliodd y gŵr:  pwy ar y ddaear all farw deirgwaith?

Ond, daeth y broffwydoliaeth yn wir pan ddilynodd y gŵr y Wiber i’w ffau.  Wrth i’r gŵr geisio lladd y bwystfil, fe frathodd y Wiber ef ar ei law.  Mewn sioc, syrthiodd y gŵr oddi ar y creigiau, torrodd ei wddf ac yna rowliodd i mewn i’r afon a boddodd.  Ac felly, daeth proffwydoliaeth y dewin yn wir.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s