Eryri i rai sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth

Ty Siamas

Ty Siamas

Gyda’i chorau meibion, ei thelynorion, ei sêr pop sydd wedi ennill gwobrau a’i chantorion opera byd-enwog, does ryfedd bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘gwlad y gân’.  Dyma gipolwg ar bump o leoliadau cerdd mwyaf poblogaidd Eryri.  


Mae cyfansoddi a gwerthfawrogi cerddoriaeth yn rhan fawr o’r diwylliant Cymreig.  Gyda thraddodiadau sydd wedi bodoli ers canrifoedd, mae chwarae’r delyn, canu, barddoniaeth a cherddoriaeth werin yn parhau’n rhan fawr o ddiwylliant modern Cymru – maent oll i’w clywed yn yr Eisteddfodau a gynhelir yn lleol a chenedlaethol drwy gydol y flwyddyn yn y wlad – does ryfedd bod Cymru, dros y canrifoedd, wedi cael yr enw ‘gwlad y gân’.

Mae pob math o gerddoriaeth yn boblogaidd – ac yn cael ei chyfansoddi – yng Nghymru.  Mae opera, gwerin, jas, roc a mathau traddodiadol o farddoniaeth a cherddoriaeth megis cerdd dafod a cherdd dant hyd yn oed, yr un mor boblogaidd ag erioed yng Nghymru.

Yn Eryri, mae cerddoriaeth yn gymaint o ran o fywyd pob dydd ag y mae ledled Cymru ac mae’r rhanbarth wedi cynhyrchu artistiaid cerddorol sydd wedi’u cydnabod ar lefel fyd-eang; er enghraifft, daw’r seren opera Bryn Terfel o bentref Pant Glas, ger Caernarfon; tra daw’r gantores bop Duffy o Nefyn, Penrhyn Llŷn.

Os ydych chi’n caru cerddoriaeth ac yn dymuno mwynhau cyngerdd neu ddau yn ystod eich ymweliad ag Eryri, dyma bum lleoliad cerddoriaeth yn Eryri sy’n werth ymweld â nhw.

 

Ty Siamas

Ty Siamas

1. Tŷ Siamas

Beth am ddechrau ag un o’r prif leoliadau cerddoriaeth yn Eryri – Tŷ Siamas yn Nolgellau.  Tŷ Siamas yw Canolfan Genedlaethol Cerddoriaeth Werin Cymru, ac ynghyd â darparu lleoliad i gerddorion Eryri gael perfformio ac i ymwelwyr fynd draw yno i ddarganfod cerddoriaeth newydd, mae Tŷ Siamas yn ganolfan addysgiadol arbennig ble y gallwch ddysgu popeth sydd i’w wybod am gerddoriaeth werin Gymraeg.

Mae arddangosfa ryngweithiol wych i’w chael yn Nhŷ Siamas ble y gallwch roi cynnig ar chwarae offerynnau cerdd Cymreig traddodiadol, hefyd ceir yno awditoriwm perfformio, stiwdio recordio, caffi a siop sy’n gwerthu nwyddau cerddorol rif y gwlith sy’n amrywio o gerddoriaeth ddalen i CDs ac offerynnau cerdd.

Yn 2011, mae’r perfformiadau yn Nhŷ Siamas wedi cynnwys bandiau lleol, nosweithiau meicroffon agored, cystadlaethau talent a dawnsio gwerin; mae rhywbeth at ddant pawb yn Nhŷ Siamas, felly sicrhewch eich bod yn dod draw yma yn ystod eich arhosiad yn Eryri!

 

Neuadd Dwyfor

Neuadd Dwyfor

2. Neuadd Dwyfor

Mae Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli yn gyfuniad o sinema, theatr a lleoliad cerdd sydd wedi bodoli yng nghanol y dref am dros gan mlynedd.

Yn ystod ei dyddiau cynnar, Neuadd Dwyfor oedd neuadd tref Pwllheli ac wrth dalu ceiniog byddai modd i chi fynd ar ben to’r adeilad i gael gweld yr olygfa orau o’r dref.

Heddiw, Neuadd Dwyfor yw’r lle i fod ym Mhenrhyn Llŷn os ydych am weld ffilmiau, perfformiadau dawns, dramâu a chyngherddau cerddoriaeth.

Mae rhaglen Neuadd Dwyfor yn amrywiol iawn ac mae’r tymor cerddoriaeth yn ei anterth dros y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig – bryd hynny bydd modd i chi glywed gwleddoedd cerddorol o bob math.

 

Marina Caernarfon

Marina Caernarfon

3. Galeri

Galeri Caernarfon yw un o ganolfannau cerdd mwyaf newydd Eryri ac mae wedi’i lleoli mewn man prydferth ger Marina Caernarfon a Glannau’r Fenai.  Mae ardal eistedd y tu allan ar gael ar gyfer  y nosweithiau cynhesach hynny ble gallwch dreulio seibiant y cyngerdd yn mwynhau golygfa odidog o’r haul yn machlud dros Eryri gyda chwpanaid o goffi da neu rywbeth fymryn cryfach o far Galeri.

Yn yr un modd â sawl un o leoliadau perfformio Eryri, mae Galeri’n cynnig arlwy amrywiol o ddigwyddiadau celfyddydol drwy gydol y flwyddyn.  Ffilmiau Cymraeg a Saesneg, bandiau lleol, comedi, arddangosfeydd celf a marchnadoedd Nadolig hyd yn oed – mae rhywbeth at ddant pawb yn digwydd yn Galeri bob amser.

Theatr y Ddraig

Theatr y Ddraig

4. Theatr y Ddraig

Yn wreiddiol, roedd yr adeilad sy’n gartref i Theatr y Ddraig yn Abermaw yn Gapel Annibynnol Saesneg. Cafodd yr adeilad ei ailwampio a’i ymestyn ar ôl y Rhyfel gan bwyllgor o bobl leol a ymddiddorai mewn theatr amatur a oedd wedi’u hymrwymo i ddod o hyd i arian er mwyn creu lleoliad celfyddydol parhaol er mwynhad pobl y dref ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bellach, mae Theatr y Ddraig fwy neu lai’n hunan gynhaliol – ac eithrio am un neu ddau o grantiau bychan achlysurol gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Abermaw sy’n cynorthwyo’r theatr.

Ymysg y perfformiadau a geir yn Theatr y Ddraig mae sioeau adloniant amrywiol, dramâu, cerdd, dawns a gweithdai – lobsgóws o ddigwyddiadau, gyda rhywbeth at ddant pawb.

5. Theatr Harlech

Mae Theatr Harlech, yng nghysgod Castell Harlech ac sy’n cefnu ar dwyni tywod hanesyddol Harlech ym Mae Ceredigion, yn un arall o leoliadau godidog Eryri sy’n llwyfannu perfformiadau a digwyddiadau celf o bob math drwy gydol y flwyddyn.  Mae rhai ohonynt yn cael eu cynnal ar y traeth hyd yn oed; yn y gorffennol, rhai o weithdai mwyaf poblogaidd Theatr Harlech oedd y gweithdai cerflunio tywod a’r cystadlaethau cestyll tywod.

Ym mis Hydref 2011, cadwch lygad allan am ddau ddigwyddiad cerddoriaeth fyw arbennig iawn yn Theatr Harlech: noson gyngerdd gyda Chôr Meibion Ardudwy a Band Pres Harlech, ac yna yn diweddarach yn y mis, perfformiad o Madam Butterfly gan gwmni Opera Canolbarth Cymru.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s