Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddifyr am y Bala

Y Bala

Y Bala

Mae tref farchnad hyfryd y Bala yn Ne Eryri yn dref ag iddi hanes diddorol iawn. Mae hi hefyd yn gartref i’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Am wybod mwy? Darllenwch y ffeithiau isod i ddysgu mwy am y Bala.


Tref farchnad yw’r Bala a’i hanes yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Sefydlwyd y dref ym 1390 drwy gyfrwng Siarter Frenhinol, a hynny gan Roger de Mortimer o Gastell y Waun. Erbyn hyn, mae’n un o brif drefi De Eryri ac yn un llawn cymeriad.
Caiff y gair ‘Bala’ ei ddefnyddio i ddisgrifio man lle mae afon yn llifo allan o lyn, felly nid yw’n syndod bod y pedair ffaith gyntaf am y Bala yn ymwneud â Llyn Tegid.

Llyn Tegid, Bala

Llyn Tegid, Bala

1. Ardal Llynnoedd Cymru

Caiff ardal Penllyn, sy’n cynnwys y Bala, ei hadnabod fel Ardal Llynnoedd Cymru a hynny oherwydd y dirwedd fynyddig sy’n frith o lynnoedd naturiol. Yn wir, Llyn Tegid yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru ac un o’r mannau mwyaf poblogaidd yn Eryri ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.

2. Tegi

Nid llynnoedd yr Alban yn unig sy’n cuddio bwystfilod enfawr….yn ôl bob sôn mae un yn byw yn Llyn Tegid hefyd!  Tegi yw fersiwn Cymru o’r hen Loch Ness, ac mae sôn bod y bwystfil yn debyg i grocodeil neu blesiosor (creadur morol o gyfnod y dinosoriaid). Mae Tegi wedi bod yn ymddangos ers yr 1920au, ac mae’r bwystfil yn dal i ymddangos o bryd i’w gilydd hyd heddiw!

3. Dinas dan y dŵr

Ceir nifer o straeon am ddinasoedd dan y dŵr yn y rhan hon o Gymru, ac un o’r enwocaf o’r rhain yw stori’r ddinas sy’n byw o dan ddyfnderoedd Llyn Tegid. Yn ôl yr hanes, arferai’r ddinas fod o dan reolaeth tywysog cas a hunanol a oedd yn teyrnasu dros bobl yr un mor gas a hunanol. Cafodd pawb eu boddi ac eithrio un, sef telynor addfwyn a achubwyd gan gân aderyn a’i rhybuddiodd mewn pryd iddo allu dianc.

4. Pysgod cyntefig

Mae Llyn Tegid yn gartref i’r ‘gwyniad’,pysgod nad ydynt i’w canfod unman arall yn y byd. Mae’r gwyniad yn rhan o deulu’r pysgod gwyn, ac mae’n debyg iddynt gael eu dal gan y llyn 10,000 o flynyddoedd yn ôl ar derfyn yr oes iâ ddiwethaf. Yn aml, cânt eu galw’n benwaig (herring) sydd wedi’u carcharu gan y tir ac maent dan fygythiad yn Llyn Tegid gan fod math arall o bysgodyn, y crychyn (ruffe), yn bwyta wyau’r gwyniad a silod mân. O ganlyniad, mae ymgyrchoedd cadwraeth ar waith er mwyn cynyddu nifer y gwyniad.

Bala

Bala

5. Iaith y Nefoedd

Fel llawer o ardaloedd Eryri, mae nifer fawr o bobl yn siarad Cymraeg yn y Bala, felly pa le’n well i ddysgu, gloywi neu ymarfer ychydig ar eich Cymraeg? Mae’r iaith i’w chlywed o’ch cwmpas ym mhob man, felly beth am fentro a rhoi cynnig ar ddysgu ambell i beth? Mae ‘diolch yn fawr’ yn mynd ymhell iawn!

6. Croeso cynnes i gerddwyr

Mae Bala yn dref sy’n croesawu cerddwyr. Mae’r cynllun ‘Croeso i Gerddwyr’ yn hyrwyddo ardaloedd ledled Prydain sydd â rhywbeth arbennig i’w gynnig i gerddwyr. Beth am grwydro’r mynyddoedd, o amgylch y llynnoedd neu hyd yn oed y dref ei hun? Mae digon o ddewis yn y Bala os ydych chi awydd tamaid o awyr iach, felly gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch amdani!

7. Patagonia

Yn y Bala cafodd y cynlluniau i sefydlu’r wladfa ym Mhatagonia yn Ne Ariannin eu trafod am y tro cyntaf. Michael D Jones oedd yn gyfrifol am hynny. Ef oedd Pennaeth Coleg Diwinyddol y Bala ar y pryd, ac yn y 19eg ganrif, wedi’i ddadrithio â chyflwr crefydd a chymdeithas yng Nghymru, trefnodd i dros 150 o Gymry symud i Ddyffryn Chubut. Mae’r gymuned Gymreig yn dal yn ei hanterth ym Mhatagonia hyd heddiw, gyda Chymraeg yn cael ei siarad law yn llaw â Sbaeneg ar draws y gymuned.

8. Cymdeithas y Beibl

Mae’r Parchedig Thomas Charles (1755-1814) yn un o ffigurau hanesyddol mwyaf enwog y Bala. Roedd yn ysgrifennwr diwinyddol o fri, ac fe gyfrannodd yn helaeth at sefydlu Cymdeithas y Beibl. Cafodd Charles ei ysbrydoli yn hyn o beth gan ferch ifanc dlawd, Mari Jones, a gerddodd dros 25 o filltiroedd i brynu Beibl ganddo yn y Bala. Mae’n bosibl troedio’r un llwybr hir y bu i Mary Jones ei ddilyn drwy roi cynnig ar gerdded ‘Taith Mary Jones’.

9. Menig a hosanau

Yn y 18fed ganrif, roedd y Bala yn ganolog i’r diwydiant gwau, ac yn un o’r prif ganolfannau o ran cynhyrchu menig, hosanau, gwlanen a hosanwaith. Roedd ‘marchnad wau’ arbennig yn y dref, a phan oedd y diwydiant ar ei anterth, roedd bron i bob un yn y Bala yn gwau i ennill eu bywoliaeth.

10. Yr Urdd

Un arall o drigolion enwog y Bala oedd Ifan ab Owen Edwards a oedd, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn gyfrifol am warchod a chynnal yr iaith Gymraeg drwy sefydlu Urdd Gobaith Cymru, sef mudiad ieuenctid Cymru. Mae’r mudiad hwn, drwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored ac eisteddfodau, yn annog siaradwyr Cymraeg ifanc i gadw’r iaith yn fyw. Mae canolfan addysg a gweithgareddau awyr agored yr Urdd, sef Glan-llyn, wedi’i nythu ar lan Llyn Tegid, ac mae croeso i bawb ymuno yn yr hwyl.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s