Eryri Hynafol: Pum Safle y Dylid eu Gweld

Tomen y Mur

Tomen y Mur

Mae Eryri yn llawn o drysorau o ran henebion, tirnodau ac aneddiadau. Dyma bump o safleoedd hynafol mwyaf poblogaidd yr ardal na ddylai’r rhai sy’n hoffi hanes yn sicr mo’u colli.

Mae pobl wedi byw yn Eryri ers miloedd o flynyddoedd. Mae’r ardal wedi ei gorchuddio â safleoedd hynafol, o feini hirion a chylchoedd cerrig i siambrau claddu a bryngaerau. Ac nid yr hen Frythoniaid yn unig a adawodd eu holion ar Eryri; roedd digon o weithgarwch Rhufeinig hefyd, ac mae llawer o weddillion eu goresgyniad yn dal i fodoli hyd heddiw.

Ar wefan The Modern Antiquarian mae’r dudalen am Wynedd yn rhestru tua 180 o safleoedd hynafol yn y sir, a llawer mwy nad oes sicrwydd am eu hynafiaeth. Mae gan lawer o safleoedd hynafol Eryri chwedlau a hanesion hynod ddifyr, ac er nad ydynt o anghenraid yn cynnig darlun cywir o hanes Eryri, byddant yn rhoi cipolwg inni o obeithion, ofnau a chredoau’r bobl a droediai’r ardal hon yn yr hen amser.

Wrth gwrs byddai’n amhosibl rhestru holl safleoedd hynafol Eryri mewn un erthygl fer; felly rydym wedi dethol pump o’r rhai mwyaf poblogaidd ar eich cyfer.

Segontium

Segontium

1. Segontium

Sefydlwyd Segontium, caer Rufeinig atodol ar gyrion tref Caernarfon, gan Agricola yn ystod 77-78 OC. Segontium oedd y brif gaer Rufeinig yng Ngogledd Cymru, ac fe’i cysylltid â ffordd a arweiniai i Deva Victrix, sef y llengaer Rufeinig yng Nghaer.

Cafodd y gaer, a oedd yn un bren yn wreiddiol, ei hailadeiladu â cherrig yn ystod yr ail ganrif OC a hyd at 394 OC roedd yno oddeutu mil o filwyr atodol, ac yn eu plith rai nad oeddynt yn ddinasyddion a oedd yn gorfod gwasanaethu byddin Rhufain am 25 mlynedd.

Tre'r Ceiri

Tre’r Ceiri

2. Tre’r Ceiri

Tre’r Ceiri yw un o safleoedd hynafol mwyaf adnabyddus Eryri. Bryngaer o’r Oes Haearn ydyw ar un o 3 chopa Yr Eifl, rhwng Trefor a Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn.

Tre’r Ceiri yw un o’r bryngaerau sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain, ac un o’r bryngaerau mwyaf poblog hefyd; mae’n dal yn bosibl gweld olion mwy na 150 o dai cerrig, er bod llawer o’r rhain yn dyddio o’r cyfnod Brythonig-Rufeinig (yn yr Oes Haearn mae’n debyg mai rhyw gant o bobl oedd yn byw yno, tra byddai cymaint â 400 wedi byw yno yn ddiweddarach).

Mae rhagfuriau amgylchynol y fryngaer yn dal i sefyll i’r uchder gwreiddiol mewn rhai mannau, a phan fyddwch yn ymweld â Thre’r Ceiri bydd y campwaith peirianyddol hynod hwn ar safle mor ddigroeso yn eich syfrdanu. Mae’r llwybr sy’n arwain at y fryngaer yn eithaf serth a gall fod ychydig yn llithrig pan fydd glaw neu rew, felly byddwch yn ofalus wrth fynd yno – ond gofalwch eich bod yn mynd yno, gan ei fod yn atyniad anhygoel.

Bryn Cader Faner

Bryn Cader Faner

3. Bryn Cader Faner

Bryn Cader Faner, gerllaw Harlech, yw un o’r henebion hawsaf i’w adnabod yng Nghymru. Mae’r garnedd gron hon sy’n dyddio o’r Oes Efydd yn drawiadol iawn, gyda chylch o bileri tenau, danheddog yn ymwthio allan o’r garnedd isel, gan edrych yn debyg iawn i gylch o waywffyn yn gwarchod yr hyn sydd oddi mewn.

Mae’r garnedd ei hun yn eithaf bychan o ran maint – dim ond 8.5m o led a metr o uchder – ac er bod rhywfaint o ddifrod wedi cael ei greu yno gan helwyr trysor y 19eg ganrif wrth ddwyn o’r safle, a chan y fyddin yn union cyn yr Ail Ryfel Byd, mae hwn yn parhau i fod yn safle dramatig tu hwnt ac yn un a ddylai fod ar ben rhestr unrhyw hanesydd brwdfrydig.

4. Dinas Emrys

Mae Dinas Emrys, Beddgelert, yn safle pwysig mewn mytholeg Gymreig. Yma, yn ôl proffwydoliaeth Myrddin, yr ymladdodd y ddraig goch a’r ddraig wen mewn llyn, ac yn wir mae enw’r safle – Dinas Emrys – yn adlewyrchu dylanwad Myrddin, gan mai Myrddin Emrys oedd ei enw. Proffwydodd Myrddin y byddai draig goch y Brythoniaid yn lladd draig wen Sacsoniaid Gwrtheyrn – ond mae cymaint o wahanol fersiynau o’r stori hon fel ei bod yn werth gwneud ychydig o waith ymchwil a chymharu pob un.

Heblaw am y chwedlau, beth wyddom ni am Ddinas Emrys? Wel, mae’n ymddangos fod ei hamddiffynfeydd yn wir yn dyddio’n fras o gyfnod Gwrtheyrn, a hefyd, ceir llwyfan uwchben y llyn lle credir fod y ‘dreigiau’ wedi ymladd, er bod hwn yn dyddio’n ôl i gyfnod mwy diweddar. Felly efallai bod mymryn o wirionedd y tu ôl i’r chwedlau wedi’r cwbl, ond bod amser wedi effeithio rhywfaint arnynt…

5. Tomen y Mur

Rydym wedi cyfeirio eisoes at gaer Agricola yng Nghaernarfon – Segontium – ond mae safle enwog arall a gysylltir â’i enw yn yr ardal hefyd, sef Tomen y Mur, ger Trawsfynydd.

Adeiladwyd Tomen y Mur oddeutu 78 OC a chafodd ei adael ryw 60 mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd y safle ei ailfeddiannu yn ystod cyfnod y Normaniaid, ac ailadeiladwyd amddiffynfeydd. Nid oes cyfeiriadau cyfoes at Domen y Mur ar gael, felly ni wyddom beth oedd enw Rhufeinig y gaer; ond gwyddom fod ynddi amffitheatr fechan, nodwedd eithaf prin mewn caer Rufeinig ym Mhrydain.

About these ads

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s