Rhifau a rhyfeddodau Eryri: Ffigurau a Ffeithiau Diddorol Eryri

Y gaeaf yn Eryri

Y gaeaf yn Eryri

Mae dysgu am Eryri yn daith rhyfeddol llawn rhifau. Dyma rai o’n hoff ystadegau, ffeithiau a ffigurau am Eryri.

Mae Eryri yn ardal hudolus. Mae’n hawdd colli eich hun yn naearyddiaeth, hanes a maint yr ardal, a chyn i chi wybod, rydych chi wedi’ch claddu dan domen o ystadegau.

Gan gofio hyn, dyma rai o’r ffigurau a’r ffeithiau mwyaf diddorol am Eryri, a hynny mewn tameidiau bach hwylus i roi blas i chi o’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.

2,548 o gilomedrau sgwâr

Mae Mynyddoedd ac Arfordir Eryri yn ymestyn ar hyd rhan fawr o Ogledd Cymru, o Gorris yn y de i Gonwy yn y gogledd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon o fewn sir Gwynedd. Mae Mynyddoedd ac Arfordir Eryri yn ymestyn 2,548 o gilomedrau sgwâr ac yn cynnwys ardaloedd nad ydynt yn rhan o’r Parc Cenedlaethol.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn byw o fewn “rhanbarth marchnata” Mynyddoedd ac Arfordir Eryri ac yn cynnwys ardal sydd 2,132 o gilomedrau sgwâr. Mae’r Parc Cenedlaethol yn dechrau o farc penllanw Bae Ceredigion yn y gorllewin ac yn ymestyn hyd at Ddyffryn Conwy yn y dwyrain, Afon Dyfi yn y de ac arfordir Bae Conwy yn y gogledd.

350,000 y flwyddyn

Yr Wydffa

Yr Wyddfa

O fewn Parc Cenedlaethol Eryri mae naw cadwyn o fynyddoedd, sy’n gorchuddio tua 52% o’r tir. Mae gan Eryri fwy na 90 o gopaon sy’n codi’n uwch na 2,000 o droedfeddi, a 15 sydd dros 3,000 o droedfeddi.

O holl fynyddoedd Eryri, yr Wyddfa yw ei henwocaf. Ac yntau’n ymestyn 3,560 o droedfeddi, hwn yw’r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr. Bob blwyddyn mae dros 350,000 o ymwelwyr yn cyrraedd copa’r Wyddfa, un ai ar Reilffordd Eryri neu ar gerdded.

Mae chwe llwybr cerdded swyddogol yn arwain at gopa’r Wyddfa: Llwybr Llanberis, Llwybr y Mwynwyr, Llwybr Pyg, Llwybr Watkin, Llwybr Rhyd Ddu a Llwybr Cwellyn.

200 o filltiroedd

Mae arfordir Eryri yn ymestyn 200 o filltiroedd, ac mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhan o’r Parc Cenedlaethol neu’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Porth Iago

Porth Iago

Mae gan bob un o draethau Eryri ei nodweddion a’i ‘bersonoliaeth’ unigryw ei hun. Pe baech yn cerdded ar hyd a lled arfordir Eryri, byddech yn canfod traethau llawn cerrig, rhai llawn tywod, rhai yn frith o byllau cerrig neu ogofâu, eraill yn cysgodi o dan greigiau enfawr. Mae rhai yn brysur, eraill bron yn gwbl wag. Mae rhai yn nodweddiadol o’r profiad lan môr Prydeinig tra bo eraill yn berlau cuddiedig nad oes llawer yn gwybod amdanynt.

Mae traethau ‘glan môr’ Eryri – y rheiny sydd â’r mwyaf o weithgareddau a chyfleusterau ar gyfer teuluoedd – yn cynnwys Bermo, Tywyn, Llanfairfechan, Pwllheli, Abersoch a Dinas Dinlle.

Mae llawer o draethau mwyaf neilltuedig Eryri wedi’u gwasgaru ar hyd Penrhyn Llŷn. Mae’r ardal yn frith o gildraethau tywod prydferth a thawel yn nythu mewn mannau cuddiedig a llonydd, gan wneud i chi deimlo mai chi sydd wedi’u darganfod! Mae Porth Iago, Porth Oer, Porth Dinllaen, Porth Colmon, Porth Ysgaden, Porth Tŷ Mawr a Porth Meudwy oll yn enghreifftiau o’r rhain.

Er mwyn cael blas ar holl ryfeddodau arfordir Eryri, ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru neu Lwybr Arfordir Llŷn, a fydd yn dangos cymaint o wahanol fathau o draethau sydd gan Eryri.

200 Cyn Crist

Bryn Cader Faner

Bryn Cader Faner

Mae dyn wedi bod yn byw yn Eryri ers cyn hanes, ac mae llawer o arteffactau hynafol wedi’u darganfod yn y rhanbarth, yn ogystal â nifer o ddarganfyddiadau Rhufeinig (ewch i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor i weld ambell un o’r rhain).

Mae’r rhanbarth yn frith o feini hirion a siambrau claddu ac mae gweddillion hynafol o’r fath i’w canfod ym mhob twll a chornel! Dolmen Bachwen yng Nghlynnog Fawr, Bryn Cader Faner ger Porthmadog, Cors y Gedol ger Bermo… mae llawer gormod i’w rhestru. Mae rhestr gynhwysfawr i’w gweld ar wefan ‘The Modern Antiquarian’, ac mae’n werth cymryd cip arni os oes gennych chi ddiddordeb yn safleoedd hynafol Eryri.

Mae sawl bryngaer yn Eryri hefyd. Efallai mai’r un mwyaf enwog (ac un o’r rhai sydd wedi’i chadw orau) yw Tre’r Ceiri ar yr Eifl, y mynydd tri chopa rhwng Trefor a Nefyn. Mae Tre’r Ceiri yn sefyll 400 o droedfeddi uwchlaw’r môr ac yn dyddio’n ôl i 200 Cyn Crist. Mae’r fryngaer mewn cyflwr da, ac mae dal yn bosibl gweld gweddillion y 150 o gytiau cerrig, y gwrthgloddiau mawr a waliau sy’n dal i sefyll dros 4 metr mewn rhai mannau.

641

At ei gilydd, mae gan Gymru 641 o gestyll – mwy fesul milltir sgwâr na’r un wlad arall yn y byd. Mae llawer o gestyll mwyaf enwog Cymru i’w gweld yn Eryri, yn ogystal â rhai sydd ychydig yn llai enwog.

Castell Cricieth

Castell Cricieth

Efallai mai’r cestyll mwyaf adnabyddus yn Eryri yw’r rheiny sy’n cael eu gwarchod gan Statws Treftadaeth y Byd UNESCO – sef Caernarfon, Harlech a Chonwy. Ymhlith y cestyll llai adnabyddus (ond yr un mor ddiddorol a phwysig) mae Cricieth, Dolbadarn, Dolwyddelan a Chastell y Bere.

A dim ond y cestyll hen iawn yw hynny. Mae Eryri hefyd yn cynnwys nifer o gestyll o’r deunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ogystal â phlastai castellaidd fel Castell Penrhyn, Bryn Bras a Chastell Deudraeth.

Mynyddoedd, traethau, cestyll, bryngaerau o’r Oesoedd Haearn….mae digon i’w wneud yn Eryri i’ch diddanu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn! Felly dewch draw i gyfrif faint o ryfeddodau welwch chi!

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s