Deg Digwyddiad i Blant yn Eryri yn ystod Haf 2012

Y Gelli Gyffwrdd

Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd

Mae’r ysgol wedi cau am yr haf – a pha well ffordd o dreulio’r gwyliau na mwynhau gwyliau teuluol yn Eryri? Dyma ddeg digwyddiad rhagorol yn Eryri na fydd eich plant eisiau eu colli!

Mae digonedd o bethau yn digwydd bob amser yn Eryri, drwy’r flwyddyn – ac mae tymor yr haf yn llawn dop o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog! Mae pob math o ddigwyddiadau i’w mwynhau ym mhob rhan o’r ardal, yn cynnwys cerddoriaeth, ffilmiau a dramâu, hanes, carnifalau a gwyliau bwyd.

Gan na fydd plant y DU yn yr ysgol yn ystod y chwech wythnos nesaf, mae llawer o ddigwyddiadau Eryri wedi eu cynllunio i’w cadw’n hapus drwy gydol gwyliau’r haf. Dyma ddeg sy’n werth mynd iddynt, i blant o bob oedran.

1. Haf y Llechi

Mae Haf y Llechi, yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, yn cynnwys cyfres o weithdai crefft a gynhelir rhwng 23 Gorffennaf a 31 Awst 2012. Mae gweithgareddau Haf y Llechi yn cynnwys defnyddio Cert Celf yr amgueddfa i addurno eich darn o lechen eich hun a lliwio amserlen ddaearegol; gwneud patrymau yn nhywod y ffowndri neu wisgo dillad ffansi yn nhai’r chwarelwyr.

Castell Penrhyn

Castell Penrhyn

2. Plentyn Gwyllt

Yng Nghastell Penrhyn ger Bangor gall eich plant fwynhau diwrnodau Plentyn Gwyllt ar ddydd Llun rhwng 30 Gorffennaf a 27 Awst.  Gyda thîm o arweinwyr profiadol bydd eich plant yn gallu ‘mynd yn wyllt’ diolch i’r Prosiect Chwarae Gwyllt yn y Coed, lle byddant yn darganfod trychfilod, cael cynnig ar wneud crefftau amrywiol, a chwarae gêmau awyr agored a helfeydd trysor.

3. Picnic Tedi Bêrs

Rhwng 27 a 30 Awst, gall eich plant fynd â’u hoff dedi bêrs am bicnic ar Reilffordd Llyn Padarn, Llanberis. Bydd trenau arbennig yn rhedeg, i fynd â chi a’ch plant bach ar daith o amgylch y llyn a bydd digonedd o weithgareddau hwyliog i’w gwneud.

4. Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd

Mae cymaint o ddigwyddiadau i blant yn digwydd ym Mharc y Gelli Gyffwrdd yr haf yma, byddai’n amhosibl inni enwi pob un! Mae digwyddiadau a gweithgareddau yn cynnwys peintio wynebau, sioeau hud, crefftau, teithiau ar gefn mulod, turnio pren, addurno’r corff a phlethu gwallt. Ffiw! Ac wrth gwrs nid yw hyn yn cynnwys y gweithgareddau hwyliog arferol sy’n digwydd yn y Gelli Gyffwrdd, sef adeiladu cuddfannau a mynd ar y reid ffigar êt sy’n cael ei gyrru gan bobl.

Theatr y Ddraig

Theatr y Ddraig

5. Wolf Tales

Yn Theatr y Ddraig yn y Bermo ar 3 Awst bydd y plantos yn cael cyfle i wylio sioe bypedau wefreiddiol – Wolf Tales. Mae’r blaidd, sydd wedi colli ei enw da, diolch i straeon tylwyth teg, yn cael cyfle i ddweud ei ochr ef o’r stori am newid!

6. Diwrnodau Hwyl y Traeth

Mae Gŵyl Arfordirol Llŷn yn cychwyn ddiwedd mis Gorffennaf ac yn parhau drwy fis Awst, gyda phob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer oedolion a phlant. Cynhelir Diwrnodau Hwyl y Traeth ym Mhorthdinllaen, Porth Oer (Whistling Sands) a Llanbedrog, a gall plant o bob oedran eu mwynhau, a cheir pob math o weithgareddau hwyliog eraill o amgylch Pen Llŷn i aelodau eraill y teulu.

7. Parti Blynyddol Woody

Ar ŵyl y banc, dydd Llun 27 Awst, gall eich plant fwynhau Parti Blynyddol Woody ym Mharc Gypsy Wood, ger Caernarfon. Mae Gypsy Wood yn atyniad ffantastig beth bynnag, gyda digon i’w weld a’i wneud ond mae Parti Woody yn gwneud y diwrnod yn fwy arbennig fyth. Mae gwisg ffansi, cyfle i gyfarfod y Ddewines Garedig, cystadlaethau a diddanwyr plant yn gwneud hwn yn ddiwrnod allan na ddylech ei golli yn Eryri yr haf yma!

8. Gêmau Olympaidd ym Mrigau’r Coed

Rhwng 27 Gorffennaf a 12 Awst (sy’n digwydd bod yr un pryd â rhyw ddigwyddiad athletig bach dinod a gynhelir yn Llundain) mae Tree Top Adventure ym Metws y Coed yn cynnal y Tree Top Olympics, lle bydd cystadleuwyr yn cael eu hamseru yn mynd o amgylch cwrs uchel yn y coed bob nos, a bydd gwobrau i’r cyntaf, yr ail a’r trydydd. Mae categorïau i blant dan 12, plant dan 16 ac oedolion, felly bydd pawb ar wahân i aelodau ieuengaf y teulu yn gallu cymryd rhan.

Nant Gwrtheyrn

Nant Gwrtheyrn

9.  Gŵyl Fictoraidd

Yn Nant Gwrtheyrn, ger Nefyn, ar ddydd Llun, Mawrth a Mercher drwy fis Awst, cynhelir gŵyl Fictoraidd anhygoel lle bydd digon o weithgareddau hwyliog i blant ac oedolion. Bydd ymwelwyr yn gallu gwisgo dillad Cymreig Fictoraidd, a theithio’n ôl i’r gorffennol i brofi bywyd mewn ystafell ddosbarth yn oes Fictoria, cyfarfod gwraig o’r oes honno, sef Myfanwy Tomos, a fydd yn dangos ei chartref i ymwelwyr, a mwynhau gweithgareddau crefftau tebyg i’r hyn y byddai plant yn oes Fictoria yn arfer eu mwynhau.

10.  Theatr John Andrews

Ceir digwyddiad arall gyda thema Fictoraidd rhwng 24 a 26 Awst pan fydd Amffitheatr John Andrews yn agor ym Mhlas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, ger Pwllheli. Ar y nos Wener ceir cyngerdd gala lle bydd rhaid archebu tocynnau, ac ar y dydd Sadwrn cynhelir diwrnod o hwyl Fictoraidd yn cynnwys arddangosiadau crefftau, gwisgoedd Fictoraidd, gweithdai celf, perfformwyr syrcas a mwy, a bydd mynediad yn rhad ac am ddim. Hefyd bydd taith drwy’r coed a sgwrs ar y dydd Sul, yn ogystal â darlith ar hanes y Plas gan yr hanesydd lleol John Dilwyn Williams.

Am ragor o ysbrydoliaeth, gweler ein albwm ‘Great Days Out‘ ar Flickr.

Gadael sylw